Daeargoel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Geomantic figures.svg|bawd|Y 16 ffigur daeargoelus.]]
 
'''Daeargoel''' (hefyd '''daearddewiniaeth''') yw enw dull o d[[darogan]] lle caiff olion ar y [[ddaear]] neu batrymau a ffurfwyd ar ôl taflu dyrneidiau o bridd, cerrig, neu dywod eu dehongli. Yn bennaf mae'r term yn cyfeirio at ddull penodol o ddarogan â'i gwreiddiau yn [[Arabia]] a [[Persia|Phersia]] a ddaeth yn boblogaidd ar draws [[Ewrop]] yn ystod y [[Canol Oesoedd]] a'r [[Diwygiad]], ond ceir dulliau eraill a ellir disgrifio fel daeargoel, megis ''[[Llyfr y Newidiadau]]'' o [[Tseina]], [[coelbren]]nau, yry defnydd [[neo-Baganaidd]] o'r [[Ogham]] o [[Iwerddon]], y [[rŵn|rwnau]] o'r [[Llychlyn]], ac ymarferiadau eraill o [[Asia]] (megis y ''Kumalak'' o [[Kazakstan]]) ac [[Affrica]] (megis y penillion ''Odu'' o [[Nigeria]]).
 
Defnyddwyd y ffurf Ewropeaidd boblogaidd o ddaeargoel gan [[Dyn Hysbys|ddynion hysbys]] yng [[Cymru|Nghymru]]<ref>Griffiths, Kate Bosse; ''Byd y Dyn Hysbys'', Pennod III, Y Lolfa 1977.</ref>