Dewiniaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 41:
 
Credai Frazer fod dewiniaeth yn system gamarweiniol a honni taw canlyniad anghyffael mewnol oedd arsylwadau dewinol. Gwrthodai eraill syniadau Frazer, yn eu plith [[Sigmund Freud]]. Yn ôl Freud, grym dymuniadau oedd yn gyfrifol am arwain dynion cyntefig at ddewiniaeth.
 
==Damcaniaethau ymlynwyr==
 
Mae gan ymlynwyr dewiniaeth sawl ddamcaniaeth i esbonio sut gallai dewiniaeth weithio.
 
* '''Grymoedd naturiol cudd''' nas darganfuwyd eto gan wyddoniaeth, ac efallai ni chânt fyth eu darganfod. Mae'r grymoedd dewinol hyn yn bodoli ochr yn ochr â grymoedd sylfaenol natur fel [[disgyrchiant]] ac [[electromagneteg]].
 
* '''Ymyriad ysbrydion''', yn debyg i rymoedd naturiol cudd ond gyda'u hymwybyddiaeth a dealltwriaeth eu hun. Bydd credinwyr yn aml yn disgrifio llond cosmos o bob math o ysbryd gyda'u hierarchaethau eu hun.
 
* '''Grym cyfriniol''' megis mana, numen, tshî, neu kundalini, sy'n bodoli ym mhob peth. Weithiau bydd y grym yn cael ei grynodi mewn rhyw wrthrych dewinol, megis modrwy, carreg neu swynogl, a fydd yn cael ei ddefnyddio gan y dewin.
 
* '''Grym astudrwydd''' sef y cred y gall meddwl y dewin gael reolaeth ar wrthrych neu gyrraedd rhyw nod penodol drwy ganolbwyntio ei feddyliau arno.
 
* '''Grym yr isymwybod''' sef y cred bod gan yr isymwybod bwerau dewinol gall y dewin eu defnyddio drwy dechnegau amrywiol. Enghraifft o hyn yw techneg y [[seliau (ocwlt)|seliau]].
 
* '''Cydgysylltiad''' neu '''Undod y Cyfan'''. sef y cred bod pob peth yn y bydysawdf yn gysylltiedig â phob peth arall, ac felly gall y dewin defnyddio'r cydgysylltiadau hyn i effeithio ar bethau. Erbyn heddiw ceir amrywiaethau ar y cred hwn sy'n benthyg syniadau oddi wrth ddamcaniaethau gwyddonol o [[ffiseg]], [[mecaneg cwantwm]]. [[mathemateg]] a [[damcaniaeth Caos]].
 
* '''Dim angen esboniad''', hynny yw y farn nad oes angen esboniad ar y dewin i egluro sut mae dewiniaeth yn gweithio, a gellir crynhoi gyda'r geiriau: "os mae'n gweithio, mae'n gweithio."
 
* '''Caniateir i bopeth; does dim byd yn wir''', un o brif ddywediadau [[dewiniaeth Caos]]. Yn ôl dewiniaeth caos gall unrhyw baradeim neu ddamcaniaeth fod yn ddilys gan nad yw'r fath beth â gwirionedd yn bodoli mewn unrhyw synnwyr gwrthrychol. Fel canlyniad bydd y dewin Caos yn defnyddio paradeimau ar hap ac ar fympwy.
 
Ceir llu o ddamcaniaethau eraill, ac yn wir fe fydd llawer o ymlynwyr yn creu eu damcaniaethau eu hun. Ond mae astudrwydd, synfyfyrio a defnydd y dychymyg (neu "weledoleiddio") yn gydsyniadau allweddol i ddewiniaeth yn gyffredin.
 
==Gweler hefyd==