Gruffudd ap Llywelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
Roedd Gruffudd yn fab i [[Llywelyn ap Seisyll|lywelyn ap Seisyll]], y gŵr a gipiodd orsedd [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] yn [[1018]], ac i Angharad, merch [[Maredudd ab Owain]], disgynnydd i [[Rhodri Mawr|Rodri Mawr]], ond nid oedd yn aelod o frenhinllin arferol Gwynedd, disgynyddion [[Idwal Foel]]. Yn [[1039]], daeth Gwynedd a [[Powys|Phowys]] i'w feddiant wedi iddo ladd [[Iago ap Idwal ap Meurig]], gor-ŵyr [[Idwal ab Anrawd]]. Yna aeth i'r afael â [[Deheubarth]] a'u harweinydd [[Hywel ab Edwin]]. Mewn brwydr enbyd ym [[Pencader|Mhencader]] (gweler [[Brwydr Pencader]]) yn 1041 trechodd Gruffudd Hywel gan ddwyn ei wraig oddi arno. Erbyn [[1044]] yr oedd wedi concro Deheubarth, ond collodd ei afael ar y deyrnas honno yn [[1047]] a rhwystrwyd ei uchelgais yno gan [[Gruffudd ap Rhydderch|Ruffudd ap Rhydderch]]. Ni ddaeth Deheubarth yn derfynol i afael Gruffudd tan [[1055]] pan laddwyd Gruffudd ap Rhydderch. Yr oedd yn awr wedi dod i gytundeb â Mersia, ac enillodd lawer o diriogaeth ar [[Y Mers|y gororau]], tiroedd tu draw i [[Clwadd Offa|Glawdd Offa]] a feddiannwyd ers tri chan mlynedd a mwy gan wladychwyr Seisnig, gan gynnwys cipio a llosgi [[Henffordd]] yn [[1055]] ac ailfeddiannu [[Chwitffordd]] a'r [[Yr Hob|Hob]], [[Bangor Is-Coed]] a'r [[Y Waun|Waun]], [[Lanandras]] a [[Maesyfed]]. Erbyn hyn gallai hawlio bod yn frenin ar Gymru gyfan bron. Derbyniwyd ei hawl dros Gymru gan y [[Saeson]], a daeth i gytundeb ag [[Edward y Cyffeswr]]. Flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach, cipiodd [[Morgannwg|Forgannwg]] gan ymlid oddi yno [[Cadwgan ap Meurig|Gadwgan ap Meurig]] o linach [[Hywel ap Rhys]]. Felly o tua [[1057]] hyd ei farw yn [[1063]], cydnabu Cymru i gyd frenhiniaeth Gruffudd ap Llywelyn.<ref>Davies, John; ''Hanes Cymru'', td 97-98, Penguin 1990.</ref> Ys dywed yr hanesydd [[John Davies]]: "Am ryw saith mlynedd bu Cymru'n un o dan reolwr Cymreig, gorchest na chyflawnwyd mohoni na chynt na chwedyn."<ref>Davies, John; ''Hanes Cymru'', td 98, Penguin 1990.</ref>
 
Gerwin oedd dull Gruffudd ap Llywelyn o uno cenedl. Edliwyd iddo ei barodrwydd i ladd ei wrthwynebwyr, a dywed [[Gwallter Map]], storïwr o [[Henffordd]], iddo ateb "Na soniwch am ladd. Nid wyf ond yn pylu cyrn epil Cymru rhag iddynt glwyfo eu mam". Enynnodd ei weithredoedd lid canghennau eraill o frenhinlin Rhodri Fawr, a chreu hefyd ofn a dicter ymhlith y Saeson , oherwydd Gruffudd oedd y rgeolwrrheolwr Cymreig cyntaf ers [[Cadwallon]] â'r gallu i ymyrryd ym materion Lloegr.<ref>Davies, John; ''Hanes Cymru'', td 98, Penguin 1990.</ref>
 
Yn [[1063]] ymosodwyd arno gan fyddin dan arweiniad [[Harold Godwinson]], ac fe lofruddiwyd Gruffudd gan ei wŷr ei hun, ac anfonwyd ei ben i Harold. Rhannwyd ei deyrnas ymhlith nifer o olynwyr. Dywed Brut Wlster mai [[Cynan ap Iago]], tad [[Gruffudd ap Cynan]]. Erlidwyd ef o fan i fan, ac yn rhywle yn [[Eryri]], ar 5 Awst 1063, fe'i lladdwyd. Dywed y ''[[Brut]]'' mai un o'i wŷr ei hun a'i lladdodd. a dehongliad [[J.E. Lloyd]] o'r cofnod yw mai drwy frad y daeth diwedd Gruffudd ap Llywelyn; Yn ôl ''[[Cronicl Ulster]]'' mai Cynan, mab Iago ab Idwal (a laddwyd gan Ruffudd yn 1039) a gyflawnodd y weithred.<ref>Davies, John; ''Hanes Cymru'', td 99, Penguin 1990.</ref>