Gruffudd ap Llywelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 5:
'''Gruffudd ap Llywelyn''' (tua [[1000]] – [[5 Awst]] [[1063]]) oedd yr unig frenin Cymreig y bu'r Cymry i gyd yn ddeiliaid iddo, a'r unig un hefyd a drechodd luoedd [[Lloegr]] droeon.<ref>Davies, John; ''Hanes Cymru'', td 97, Penguin 1990.</ref>
Roedd Gruffudd yn fab i [[Llywelyn ap Seisyll|Lywelyn ap Seisyll]], y gŵr a gipiodd orsedd [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] yn [[1018]], ac i Angharad, merch [[Maredudd ab Owain]], disgynnydd i [[Rhodri Mawr|Rodri Mawr]], ond nid oedd yn aelod o frenhinllin arferol Gwynedd, disgynyddion [[Idwal Foel]]. Yn [[1039]], daeth Gwynedd a [[Powys|Phowys]] i'w feddiant wedi iddo ladd [[Iago ap Idwal ap Meurig]], gor-ŵyr [[Idwal ab Anrawd]]. Yna aeth i'r afael â [[Deheubarth]] a'u harweinydd [[Hywel ab Edwin]]. Mewn brwydr enbyd ym [[Pencader|Mhencader]] (gweler [[Brwydr Pencader]]) yn 1041 trechodd Gruffudd Hywel gan ddwyn ei wraig oddi arno. Erbyn [[1044]] yr oedd wedi
Gerwin oedd dull Gruffudd ap Llywelyn o uno cenedl. Edliwyd iddo ei barodrwydd i ladd ei wrthwynebwyr, a dywed [[Gwallter Map]], storïwr o [[Henffordd]], iddo ateb "Na soniwch am ladd. Nid wyf ond yn pylu cyrn epil Cymru rhag iddynt glwyfo eu mam". Enynnodd ei weithredoedd lid canghennau eraill o frenhinlin Rhodri Fawr, a chreu hefyd ofn a dicter ymhlith y Saeson , oherwydd Gruffudd oedd y rheolwr Cymreig cyntaf ers [[Cadwallon]] â'r gallu i ymyrryd ym materion Lloegr.<ref>Davies, John; ''Hanes Cymru'', td 98, Penguin 1990.</ref>
|