Odysews: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
Yn yr Iliad, mae'n un o arweinwyr y Groegiaid sy'n gwarchae ar ddinas [[Caerdroea]] dan arweiniad [[Agamemnon]]. Mae'n enwog am ei gyfrwysdra, ac ef sy'n meddwl am ystryw [[Ceffyl Pren Caerdroia]], sy'n arwain at gwymp y ddinas.
 
Ef yw arwr yr OdysseiaOdyseia, lle ceir hanes y daith adref i [[Ithaca]] wedi i'r Groegiaid goncro [[Caerdroea]]. Mae'r daith adref o Gaerdroes yn cymeryd deng mlynedd, ac mae Odysews yn wynebu llawer o beryglon ar y ffordd. Caiff ei achub rhagddynt yn rhannol trwy gymorth y dduwies [[Athena]], ond i raddau helaeth trwy ei gyfrwystra ef ei hun. Er enghraifft, pan mae'n cael ei ddal gan y [[Cyclops|Seiclops]] [[Polyphemus]], mae'n dweud wrtho mai ei enw yw "Neb". Mae wedyn yn llwyddo i ddallu Polyphemus; a phan mae yntau'n galw am gymorth daw'r Seiclopsiaid eraill i weld beth sy'n digwydd. Pan maent yn holi Polyphemus pwy sy'n ei boeni, mae'n ateb "Neb". Mae Polyphemus yn fab i dduw'r môr, [[Poseidon]], sy'n troi'n elyn i Odysews.
 
Mae'n treulio saith mlynedd yn garcharor y nymff [[Calypso (mytholeg)|Calypso]], nes i [[Athena]] ei pherswadio i'w ollwng yn rhydd. Erbyn iddo gyrraedd adref i Ithaca, mae wedi bod oddi catref am ugain mlynedd i gyd, ac mae ei dŷ yn llawn o ddynion sy'n dymuno priodi ei wraig, Penelope, gan gredu ei bod bellach yn weddw. Mae Odysews yn lladd y rhain i gyd.