Gruffudd ap Llywelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
'''Gruffudd ap Llywelyn''' (tua [[1000]] &ndash; [[5 Awst]] [[1063]]) oedd yr unig frenin Cymreig y bu'r Cymry i gyd yn ddeiliaid iddo, a'r unig un hefyd a drechodd luoedd [[Lloegr]] droeon.<ref>Davies, John; ''Hanes Cymru'', td 97, Penguin 1990.</ref>
 
Roedd Gruffudd yn fab i [[Llywelyn ap Seisyll|Lywelyn ap Seisyll]], y gŵr a gipiodd orsedd [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] yn [[1018]], ac i Angharad, merch [[Maredudd ab Owain]], disgynnydd i [[Rhodri Mawr|Rodri Mawr]], ond nid oedd yn aelod o frenhinllin arferol Gwynedd, disgynyddion [[Idwal Foel]]. Yn [[1039]], daeth Gwynedd a [[Powys|Phowys]] i'w feddiant wedi iddo ladd [[Iago ap Idwal ap Meurig]], gor-ŵyr [[Idwal ab Anrawd]]. Yna aeth i'r afael â [[Deheubarth]] a'u harweinydd [[Hywel ab Edwin]]. Mewn brwydr enbyd ym [[Pencader|Mhencader]] (gweler [[Brwydr Pencader]]) yn [[1041]] trechodd Gruffudd Hywel gan ddwyn ei wraig oddi arno. Erbyn [[1044]] yr oedd wedi meddiannu Deheubarth, ond collodd ei afael ar y deyrnas honno yn [[1047]] a rhwystrwyd ei uchelgais yno gan [[Gruffudd ap Rhydderch|Ruffudd ap Rhydderch]]. Ni ddaeth Deheubarth yn derfynol i afael Gruffudd tan [[1055]] pan laddwyd Gruffudd ap Rhydderch. Yr oedd yn awr wedi dod i gytundeb â [[Mersia]], ac enillodd lawer o diriogaeth ar [[Y Mers|y gororau]], tiroedd tu draw i [[Clawdd Offa|Glawdd Offa]] a feddiannwyd ers tri chan mlynedd a mwy gan wladychwyr Seisnig, gan gynnwys cipio a llosgi [[Henffordd]] yn [[1055]] ac ailfeddiannu [[Chwitffordd]] a'r [[Yr Hob|Hob]], [[Bangor Is-Coed]] a'r [[Y Waun|Waun]], [[LanandrasLlanandras]] a [[Maesyfed]]. Erbyn hyn gallai hawlio bod yn frenin ar Gymru gyfan bron. Derbyniwyd ei hawl dros Gymru gan y [[Saeson]], a daeth i gytundeb ag [[Edward y Cyffeswr]]. Flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach, cipiodd [[Morgannwg|Forgannwg]] gan ymlid oddi yno [[Cadwgan ap Meurig|Gadwgan ap Meurig]] o linach [[Hywel ap Rhys]]. Felly o tua [[1057]] hyd ei farw yn [[1063]], cydnabu Cymru i gyd frenhiniaeth Gruffudd ap Llywelyn.<ref>Davies, John; ''Hanes Cymru'', td 97-98, Penguin 1990.</ref> Ys dywed yr hanesydd [[John Davies]]: "Am ryw saith mlynedd bu Cymru'n un o dan reolwr Cymreig, gorchest na chyflawnwyd mohoni na chynt na chwedyn."<ref>Davies, John; ''Hanes Cymru'', td 98, Penguin 1990.</ref>
 
Gerwin oedd dull Gruffudd ap Llywelyn o uno cenedl. Edliwyd iddo ei barodrwydd i ladd ei wrthwynebwyr, a dywed [[Gwallter Map]], storïwr o [[Henffordd]], iddo ateb "Na soniwch am ladd. Nid wyf ond yn pylu cyrn epil Cymru rhag iddynt glwyfo eu mam". Enynnodd ei weithredoedd lid canghennau eraill o frenhinlin [[Rhodri Mawr]], a chreu hefyd ofn a dicter ymhlith y Saeson , oherwydd Gruffudd oedd y rheolwr Cymreig cyntaf ers [[Cadwallon]] â'r gallu i ymyrryd ym materion Lloegr.<ref>Davies, John; ''Hanes Cymru'', td 98, Penguin 1990.</ref>