Bulkeley (teulu): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 3:
O [[Lloegr|Loger]] y daeth y teulu yn wreiddiol, ond ymddengys eu bod ym Môn cyn [[1450]]. Heblaw y prif gangen, roedd cangen y Gronant a'r Dronwy; y mwyaf adnabyddus o'r rhain yw Syr John Bulkeley o Bresaddfed. Roedd hefyd gangen Porthamel, a ddaeth i ben pan saethodd Francis Bulkeley ei hun yn 1714. Yr aelod mwyaf adnabyddus o gangen y Brynddu oedd [[ William Bulkeley]], y dyddiadurwr.
 
Adeiladwyd plasdy Baron Hill gyntaf yn [[1618]] gan Syr [[Richard Bulkeley (bu farw 1621)]]. Gwnaed ei fab, [[Thomas Bulkeley, Is-iarll 1af Bulkeley|Thomas]] (1585-1659), yn Is-iarll Bulkeley.
 
Cynrychiolwyd Sir Fôn a'i bwrdeisdrefi yn San Steffan gan aelodau o deulu Bulkeley neu eu cefnogwyr bron yn ddi-fwlch o ganol y [[16eg ganrif]] hyd ganol y [[19eg ganrif]]. Daeth y brif linach i ben pan fu farw'r seithfed Is-iarll heb blant yn [[1822]]. Ei etifedd oedd Syr Richard Williams, mab ei hanner brawd, ac yn 1827 newidiodd ef ei enw i Syr Richard Bulkeley Williams Bulkeley. Mae'r teulu Williams Bulkeley yn parhau i fyw yn yr ardal, er bod Baron Hill yn adfail.