Gruffudd ap Llywelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 9:
Gerwin oedd dull Gruffudd ap Llywelyn o uno cenedl. Edliwyd iddo ei barodrwydd i ladd ei wrthwynebwyr, a dywed [[Gwallter Map]], storïwr o [[Henffordd]], iddo ateb "Na soniwch am ladd. Nid wyf ond yn pylu cyrn epil Cymru rhag iddynt glwyfo eu mam". Enynnodd ei weithredoedd lid canghennau eraill o frenhinlin [[Rhodri Mawr]], a chreu hefyd ofn a dicter ymhlith y Saeson , oherwydd Gruffudd oedd y rheolwr Cymreig cyntaf ers [[Cadwallon]] â'r gallu i ymyrryd ym materion Lloegr.<ref>Davies, John; ''Hanes Cymru'', td 98, Penguin 1990.</ref>
 
Yn [[1063]] ymosodwyd arno gan fyddin dan arweiniad [[Harold Godwinson]]. Erlidwyd ef o fan i fan, ac yn rhywle yn [[Eryri]], ar 5 Awst 1063, fe'i lladdwyd. Dywed y ''[[Brut]]'' mai un o'i wŷr ei hun a'i lladdodd. a dehongliad [[J.E. Lloyd]] o'r cofnod yw mai drwy frad y daeth diwedd Gruffudd ap Llywelyn; Yn ôl ''[[Cronicl Ulster]]'' mai [[Cynan ap Iago|Cynan]], tad [[Gruffudd ap Cynan]] a mab [[Iago ab Idwal]] (a laddwyd gan Ruffudd yn 1039) oedd y dyn a gyflawnodd y weithred,<ref>Davies, John; ''Hanes Cymru'', td 99, Penguin 1990.</ref> ac anfonwyd ei ben i Harold. Rhannwyd ei deyrnas ymhlith nifer o olynwyr.
 
Yn ôl ''[[Llyfr Dydd y Farn]]'', roedd gan Gruffudd ap Llywelyn fardd o'r enw [[Berddig]] yn ei lys.