Henry Parry (clerigwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 4:
==Gyrfa==
Roedd yn ficer yn [[Llanasa]], sir y Fflint, o 1798 hyd 1854; Cafodd ei wneud yn un o ganoniaid Llanelwy ar y 3ydd o Fai, 1833. Yr oedd yn flaenllaw fel eisteddfodwr (gweler Seren Gomer, 1834, 212, am ei hanes yn llywyddu mewn eisteddfod beirdd yn Nhreffynnon, 3 Mehefin 1834) ac fel hynafiaethydd (gweler marw-goffa byr yn Arch. Camb., 1855, 58). Fe gafodd ail argraffiad (Rhydychen, 1809) gramadeg y Dr. John Davies o Fallwyd ei olygu a gyhoeddasid gyntaf yn 1621; Roedd argraffiad Parry ar werth gan Broster a Poole yng Nghaer a chan Carnes yn Nhreffynnon. Y mae rhai llythyrau a ysgrifennodd wedi eu cadw yng nghasgliadau [[Edward Jones]] (‘Bardd y Brenin’), Thomas a [[David Pennant]], a [[Walter Davies]] (‘Gwallter Mechain’) yn Ll.G.C.; e.e. NLW. MS. 165, 1807, 1893, 2590-1, a 4877-8.
== Cyfeiriadau ==
|