Thomas De Quincey: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B llun
Tagiau: Golygiad cod 2017
ehangu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 5:
| dateformat = dmy
}}
Llenor o [[Sais]] oedd '''Thomas De Quincey''' ([[15 Awst]] [[1785]] – [[8 Rhagfyr]] [[1859]]). Ei gampwaith ydy'r atgof am ei ddibyniaeth ar [[opiwm]], ''Confessions of an English Opium-Eater'' (1821).
 
Ganwyd yn Greenhays,ym [[Manceinion]]. Marsiandwr goludog oedd ei dad, a fu farw pan oedd ei blant yn ieuainc, gan adael i'w weddw £1600 y flwyddyn i fyw arnynt. Ar ôl derbyn ei addysg mewn dwy neu dair o ysgolion, aeth Thomas ymyn 1803 i [[Prifysgol Rhydychen|Rydychen]]. Yno y dechreuodd fwyta [[opiwm]], arferiad a wnaeth niwed dirfawr i'w feddwl, i'w gorff, ac i'w amgylchiadau.
 
Gadawodd y brifysgol ymyn 1808, a threuliodd ysbaid o amser yn crwydro hyd Loegr a Chymru. Aeth i breswylio yn Llynnoedd Cumberland, ac yno cafodd gymdeithas awduron enwocaf yr oes. Nid ymroddod De Quincey i lenyddiaeth, oddi eithr er mwyn difyrrwch, nes oedd efe yn ddeugain oed, pryd y gorfu arno, er mwyn ymgynnal, ysgrifennu i'r ''London Magazine''. Yn y cyhoeddiad hwnnw y darfu iddo gyhoedi ei waith amlycaf, ''Confessions of an Opium Eater''. Parhaodd i ysgrifennu o hynny allan ar bob pwnc, ac mewn sawl arddull. A mỳn llawer mai efe, gan eithrio'r Albanwr [[John Wilson]], oedd y cylchgronwr mwyaf gorchestol yng Ngwledydd Prydain.
 
[[Delwedd:Thomas de Quincey by Sir John Watson-Gordon.jpg|chwith|bawd|Portread o Thomas De Quincey gan Syr John Watson-Gordon (1788–1864)]]
Nodir ar gyfrif ei asbri a'i wreiddioldeb, ynghyd â rhwysg a mawredd ei ddychymyg, ac y mae ei arddull hefyd yn ddiguro mewn eglurder ac ystwythder. Dygodd hefyd lenyddiaeth yr Almaen i sylw darllenwyr Saesneg trwy ei gyfieithiadau, rhai blynyddoedd cyn i [[Thomas Carlyle|Carlyle]] ei gwneuthur hi mor adnabyddus.
 
YmYn 1832, aeth De Quincey i'r Alban ac ymsefydlodd yn agos i [[Caeredin|Gaeredin]], lle y bu yn fawr ei barch hyd ei farwolaeth. Cyhoeddwyd ei weithiau mewn 16 o gyfrolau (1862–71) gan A.&C. Black. Ysgrifennwyd bywgraffiad ohonno mewn dwy gyfrol (1877) gan Alexander Hay Japp dan yr enw H. A. Page.
 
== Bywyd cynnar a phersonol ==
Ganwyd Thomas Quincey yn ardal Greenhay, Manceinion. Cafodd y rhagddodiad De ei ychwanegu at ei enw gan ei fam pan oedd Thomas tua 11 oed. Bachgen henffel a sensitif oedd Thomas a ymddieithriodd oddi wrth ei deulu. Cafodd ei fwlio gan ei frawd hŷn, a bu farw ei dad a dwy o'i chwiorydd, gan waethygu gofidion ei ieuenctid.<ref name=NY/>
 
Symudodd y teulu i [[Caerfaddon|Gaerfaddon]] ac yno mynychodd Thomas yr ysgol ramadeg nes iddo gael ei daro ar ddamwain yn y pen gan gansen yr athro. Roedd Thomas yn edmygwr o'r ''Lyrical Ballads'' (1798), casgliad o gerddi gan [[William Wordsworth]] a [[Samuel Taylor Coleridge]], a phenderfynodd bod yn rhaid iddo gwrdd â Wordsworth. Dihangodd yn 17 oed ar ymgais i ganfod y bardd, gan grwydro [[Cymru]] am gyfnod cyn iddo rhoi'r gorau i'w chwilfa. Yn 1802–03 bu'n byw dan gochl yn [[Llundain]], heb yr un geiniog, ac yn treulio'i ddyddiau yng nghwmni putain ifanc o'r enw Ann.<ref name=NY/>
 
Bu cymod rhyngddo â'i deulu yn 1803, ac aeth i [[Coleg Caerwrangon, Rhydychen|Goleg Caerwrangon, Rhydychen]]. Yn ei ddyddiau yn y brifysgol roedd yn llyfrbryf hynod o chwilfrydig ac yn gwmpasog ei ddiddordebau, gan ddarllen yn ddwfn ar bynciau hanes, economeg, seicoleg, a metaffiseg.<ref name=EB/> Ysgrifennodd llythyrau at Wordsworth tra'n fyfyriwr, ac yn 1807 llwyddodd o'r diwedd i ymweld â'r bardd yn ei gartref, Town End (yn ddiweddarach Dove Cottage), yn [[Grasmere]] ym [[Bro'r Llynnoedd|Mro'r Llynnoedd]]. Daeth De Quincey yn gyfeillgar â Wordsworth a'i deulu, a chyda Coleridge, a bu'n rhentu Town End sawl gwaith rhwng 1809 a 1833.<ref name=EB/>
 
Priododd Margaret Simpson yn 1817, a chawsant wyth o blant. Ysgrifennodd nifer fawr o ysgrifau, ond dim ond ychydig a gyhoeddwyd.<ref name=EB/> Daeth yn olygydd y ''Westmorland Gazette'', papur newydd lleol Torïaidd, yn 1818. Dechreuodd gyhoeddi erthyglau am opiwm, athroniaeth Almaenig, a llofruddiaethau yn Ewrop, Ymddiswyddodd o'r ''Gazette'' wedi deunaw mis.<ref name=NY>{{eicon en}} Dan Chiasson, "[https://www.newyorker.com/magazine/2016/10/17/the-man-who-invented-the-drug-memoir The Man Who Invented the Drug Memoir]", ''[[The New Yorker]]'' (17 Hydref 2016). Adalwyd ar 23 Ionawr 2019.</ref> Bu'n wynebu trafferthion ariannol felly cyn iddo gyhoeddi'r ''Confessions''.
 
== Ei ddibyniaeth ar opiwm a'r ''Confessions'' ==
[[Delwedd:Confessions of an English Opium-Eater cover 1823.jpg|bawd|chwith|Tudalen glawr yr ail argraffiad o ''Confessions of an English Opium-Eater'' (1823).]]
Dechreuodd De Quincey gymryd opiwm pan oedd yn y brifysgol yn 1804, i liniaru poen gwayw yn ei wyneb. Erbyn 1813 fe oedd yn gaeth i'r cyffur, ac yn ddibynnol arno am weddill ei oes. Cedwai costrel o [[lodnwm]] wrth ei ochr trwy'r dydd, a fe fu'n cynyddu'r dos yn raddol er mwyn ei daflu i freuddwydion opiwm.
 
Cyhoeddwyd ''Confessions of an English Opium-Eater'' yn gyntaf yn ddi-enw mewn dwy ran yn y ''London Magazine'' yn 1821. Fe'i argraffwyd ar ffurf llyfr yn 1822. Nid yw'n hawdd disgrifio ffurf lenyddol y gwaith: cyfuniad ydyw o atgofion cyffesol, traethiad cynhyrfus o brofiad yr un sy'n cymryd opiwm, a datgeliad newyddiadurol o ddrwg cymdeithasol y cyffur.<ref>Arun Sood, "[https://www.gla.ac.uk/media/media_279214_en.pdf Dreaming of the Self: Thomas De Quincey and the Development of the Confessional Mode]", ''New Horizons'' ([[Prifysgol Glasgow]]). Adalwyd ar 23 Ionawr 2019.</ref> Nod honedig yr awdur oedd i rybuddio'r darllenydd rhag cymryd y cyffur, drwy gyflwyno disgrifiadau arddulliol o hynt ei ddibyniaeth, o synfyfyrdodau iwfforig i hunllefau arswydus.
 
Ysgrifennodd De Quincey rhagor am ei freuddwydion opiwm yn yr ysgrif "Suspiria de Profundis" a gyhoeddwyd yn ''Blackwood's Magazine'' yn 1845. Ychwanegodd rhai o'r disgrifiadau hyn at adargraffiad y ''Confessions'' a gyhoeddwyd yn 1856, ynghyd ag atgofion eraill am ei fagwraeth ym Manceinion a'i gyfnod yn llanc yn Llundain.<ref name=EB/>
 
== Beirniadaeth lenyddol ac ysgrifau eraill ==
Ei ysgrif feirniadol bwysicaf ydy "On the Knocking at the Gate in Macbeth", a gyhoeddwyd yn y ''London Magazine'' yn 1823, sy'n rhoi cipolwg ar seicoleg y ddrama ''[[Macbeth (drama)|Macbeth]]'' gan [[Shakespeare]]. Cyhoeddwyd sawl ysgrif hunangofiannol gan De Quincey yn ''Tait's Magazine'' o 1834 i 1840, a elwir ''Lake Reminiscences''. Nid oedd Wordsworth a'r beirdd eraill a ymddengys yn yr atgofion yn hoff o'r ffordd cawsant eu portreadu gan De Quincey.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Thomas-De-Quincey |teitl=Thomas De Quincey |dyddiadcyrchiad=23 Ionawr 2019 }}</ref>
 
== Diwedd ei oes ==
[[Delwedd:Thomas de Quincey by Sir John Watson-Gordon.jpg|chwith|bawd|Portread o Thomas De Quincey gan Syr John Watson-Gordon (1788–1864).]]
Aeth De Quincey i Gaeredin yn 1826, gan adael ei wraig a'u plant yn Grasmere. O ganlyniad, bu Margaret yn dioddef o iselder ysbryd, ac o'r diwedd cytunodd De Quincey i symud ei holl deulu i Gaeredin yn 1830. Er ei lwyddiant fel cylchgronwr ac enwogrwydd y ''Confessions'', gwnaethai'r opiwm ddifrod mawr i'w iechyd ac roedd at ei glustiau mewn dyled.<ref>{{eicon en}} Nicholas Spice, "[https://www.lrb.co.uk/v39/n10/nicholas-spice/the-animalcule The Animalcule]", ''[[London Review of Books]]'' (18 Mai 2017). Adalwyd ar 23 Ionawr 2019.</ref> Aeth De Quincey yn unig ac yn fwyfwy rhyfedd wedi marwolaeth ei wraig o [[teiffws|deiffws]] yn 1837. Bu farw yng Nghaeredin yn 74 oed.
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
== Darllen pellach ==
* John Barrell, ''The Infection of Thomas De Quincey: A Psychopathology of Imperialism'' (Yale University Press, 1991).
* V. A. De Luca, ''Thomas De Quincey: The Prose of Vision'' (University of Toronto Press, 1980).
* Grevel Lindop, ''The Opium-Eater'' (1981).
* Frances Wilson, ''Guilty Thing: A Life of Thomas De Quincey'' (2016).
 
{{Testun Y Gwyddoniadur Cymreig}}
 
{{DEFAULTSORT:De Quincey, Thomas}}
[[Categori:NofelwyrBeirniaid llenyddol Seisnig yn yr iaith Saesneg]]
[[Categori:Cyfieithwyr Seisnig]]
[[Categori:Genedigaethau 1785]]
[[Categori:Hunangofianwyr Seisnig yn yr iaith Saesneg]]
[[Categori:Llenorion Seisnig y 19eg ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau 1859]]
[[Categori:Nofelwyr Seisnig yn yr iaith Saesneg]]
[[Categori:Pobl o Fanceinion]]
[[Categori:Ysgrifwyr a thraethodwyr Seisnig yn yr iaith Saesneg]]