Gwrach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
 
==Gwrachod Cymru==
Ceir sawl chwedl a thraddodiad am wrachod yn [[llên gwerin Cymru]]. Y ffigwr enwocaf efallai yw [[Ceridwen]] yn ''[[Hanes Taliesin]]'', sy'n berwi [[pair]] llawn o berlysiau'r maes i gael hylif gwybodaeth ac [[Awen]] i'w rhoi i'w fab [[Afagddu]] (ond mae'n debyg mai [[duwies]] oedd Ceridwen yn wreiddiol ac nid yw manylion eraill ei phortread yn cyfateb i'r darlun o'r wrach draddodiadol). Yn chwedl [[Peredur fab Efrog]], un o'r [[Tair Rhamant]], ceir [[Naw Widdon Caerloyw]]. Mae ''gwiddon'' yn hen air am 'wrach', a chlywir sôn am widdonod yn y chwedl [[Culhwch ac Olwen]].
 
==Erledigaeth==
Llinell 10:
 
Poblogeiddiwyd yr "hypothesis erledigaeth" yn y 19 ac 20 canrifoedd, sef theori ddadleuol bod yr erledigaeth hon yn profi mai [[Paganiaeth|paganiaid]] guddiedig oedd llawer o werin Ewrop o hyd. Ers canol y 20fed canrif mae gwrachod cyfoes wedi dod yn gangen hunan-ddynodiad [[Neo-baganiaeth|neo-baganaidd]], yn enwedig [[Wica]], a grëwyd gan [[Gerald Gardner]], a ddatganodd fod y gelfyddyd wen yn draddodiad crefyddol sydd â gwreiddiau cyn-Gristnogol.<ref>[[Margot Adler|Adler, Margot]] (1979) ''Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-Worshippers, and Other Pagans in America Today''. Boston: Beacon Press. tudalenni 45–47, 84–5, 105.</ref>
 
==Gwrachod yn y Beibl==
Mae'r [[Hen Destament]] yn gwahardd y defnydd o swyngyfaredd. Cafodd adnodau fel y canlynol eu defnyddio gan yr Eglwys i gyfiawnhau eu gweithredoedd yn erbyn gwrachod.
 
* Paid â gadael i ddewines fyw.(Exodus 22:18)
 
* Y mae unrhyw ŵr neu wraig yn eich plith sy'n ddewin neu'n swynwr i'w roi i farwolaeth; yr ydych i'w llabyddio â cherrig, a byddant hwy'n gyfrifol am eu gwaed eu hunain. (Lefiticus 20:21)
 
* Pan fyddi wedi dod i'r tir y mae'r ARGLWYDD dyd Dduw yn ei roi iti, paid â dysgu gwneud yn ôl arferion ffiaidd y cenhedloedd hynny. Nid yw neb yn eich mysg i roi ei fab na'i ferch yn aberth trwy dân; nac i arfer dewiniaeth, hudoliaeth, na darogan; nac i gonsurio, arfer swynion, ymwneud ag ysbrydion a bwganod, nac ymofyn â'r meirw. Y mae unrhyw un sy'n ymhel â'r rhain yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD; o achos yr arferion ffiaidd hyn y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu gyrru hwy allan o'th flaen. (Deuteronomium 18:9-12)
 
* Yn `1 Samuel 28 mae Saul, yn groes i'w gyfraith ei hun, yn defnyddio dewines Endor i gyfathrebu ag ysbryd Samuel.<ref>''Y Beibl Cymraeg Newydd'', argraffiad diwygiedig, Cymdeithas y Beibl 2004.</ref>
 
==Gwrachod mewn ffuglen==