Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Parc Cenedlaethol Northumberland"

Ychwanegwyd 10 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '250px|bawd|Rhan o [[Mur Hadrian|Fur Hadrian ym Mharc Cenedlaethol Northumberland.]] Gorwedd '''Parc Cenedlaethol ...')
 
B
[[Delwedd:Northumberland National Park.jpg|250px|bawd|Rhan o [[Mur Hadrian|Fur Hadrian]] ym Mharc Cenedlaethol Northumberland.]]
Gorwedd '''Parc Cenedlaethol Northumberland''' yn sir [[Northumberland]] yng ngogledd-ddwyrain [[Lloegr]]. Dyma'r [[Parciau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig|parc cenedlaethol]] mwyaf gogleddol yn Lloegr. Mae'n cynnwys ardal o dros 1030 km² sy'n ymestyn o'r ffin gyda'r [[Alban]] yn y gogledd i'r ardal i'r de o [[Mur Hadrian|Fur Hadrian]]. Mae'n un o'r parciau cenedlaethol lleiaf poblogaidd gan ymwelwyr yn Lloegr. Mae'r parc yn gorwedd yn gyfangwbl o fewn ffiniau Northumberland ac yn ffurfio tua chwarter y sir honno. Ychydig iawn o bobl sy'n byw yno.
 
Ceir sawl ardal neilltuol yn y parc. Yn y gogledd ceir [[Bryniau Cheviot]], cadwyn o fryniau am y ffin rhwng yr Alban a Lloegr. Yng nghanolbarth y parc ceir ardal o waundir a rhosydd eang, gyda rhannu'n orchuddiedig gan goedwigoedd, e.e. [[Coedwig Kielder]]. Mae rhan ddeheuol y parc yn cynnwys rhan ganol Mur Hadrian a'r tir o'i gwmpas.