Opiwm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 5:
 
Defnyddir y cyffur at ddibenion meddygol ac fel cyffur adloniadol. Fel cyffur naturiol roedd yn rhan o ddiwylliant de a dwyrain Asia am ganrifoedd, a chan amlaf yn cael ei [[ysmygu]] neu ei fwyta er mwyn yr effeithiau narcotig, pleserus. Roedd hefyd yn cael ei ddefnyddio'n gyfreithlon yn [[Ewrop]] a [[gogledd America]] ac roedd yn gyffur poblogaidd iawn yn y [[18g]]. Ymhlith ei ddefnyddwyr enwocaf mae [[Thomas De Quincey|De Quincey]], [[Tennyson]], [[Iolo Morganwg]] ac [[Edgar Allan Poe]]. Ond erbyn heddiw mae'n cael ei brosesu mewn ffatrïoedd anghyfreithlon i gynhyrchu [[heroin]] - cyffur cryfach o lawer - ac wedyn yn cael allforio'n ddirgel.
 
==Defnydd hanesyddol yng Nghymru==
 
Cofnododd William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell fel hyn tra roedd yn aros yn Nulyn ar 25 Hydref 1735:
 
:''The wind S.W.; rained almost all day. Paid 6/- for a pair of shoes ; paid 4d. for 1/4 dr. of opium; paid at my lodging house 4/6 for Punch.''
 
Meddai Twm Elias<ref>Twm Elias (cys. personol DB</ref>: “roedd ‘na ddefnyddiau meddygol pwysig iawn i opiwm (sug y pabi gwyn) ac fe’i ceid fel soled wedi ei sychu o sug y ffrwyth. Neu gellid ei doddi mewn alcohol a dŵr (cyfartaledd 1 : 1 : 1) i greu Laudanum, oedd yn fwy cyfleus ac yn gweithio’n gynt. Fel hypnotig a thawelydd (‘sedative’) roedd yn ddefnyddiol iawn i leddfu poen a thawelu rhywun oedd wedi gor- gynhyrfu. Roedd ei effeithiau ''astringent'' yn dda ar gyfer y dolur rhydd a dysentri a’i effeithiau expectorant, diafforetig, tawelyddol a gwrth-spasmodig yn ei wneud yn dda ar gyfer rhai mathau o beswch. Mae ‘na dros 20 o wahanol alcaloidiau mewn opiwm, a’r ddau fwyaf cyfarwydd erbyn heddiw ydi Codeine a Morphine. Mae’n cael ei dyfu dan drwydded mewn sawl gwlad i gyflenwi’r cyffuriau meddygol hyn ond mae ‘na gryn dyfu arno fo hefyd i gyflenwi’r farchnad gyffuriau anghyfreithlon! ‘Swn i’n feddwl mai i bwrpas meddygol yr oedd Bulkeley yn ei brynu...?''
 
Datgelwyd yn ddiweddar bod tad yr actor enwog Kenneth Williams yn gaeth i heroine ar ffurf y moddion cyffredin Gee’s Linctus<ref>sylw personol</ref>
 
 
[[Categori:Opiwm| ]]