Diafol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:GustaveDoreParadiseLostSatanProfile.jpg|bawd|240px|Satan. Llun gan [[Gustave Doré]] ar gyfer argraffiad o ''[[Paradise Lost]]'' gan [[John Milton]].]]
 
Y '''Diafol''' neu'r '''Diawl''' yw'r enw a roddir i fod goruwchnaturiol, a ystyrir gan [[Cristnogaeth|Gristnogaeth]], [[Islam]] a rhai crefyddau eraill fel ymgorfforiad o ddrygioni. Ystyrir fod y diafol yn temtio bodau dynol, i geisio eu cael i bechu. Daw'r gair "diafol" o'r [[Groeg (iaith)|Groeg]] ''Διάβολος'' "diabolos". Yn Islam, cyfeiri at y Diafol fel ''شيطان'', "Iblis".
 
Mewn Cristnogaeth, credir fod [[Duw]] a'r Diafol yn ymryson am eneidiau dynol, gyda'r Diafol yn ceisio eu cipio i [[uffern]]. Denyddir nifer o enwau am y Diafol, yn cynnwys [[Satan]], [[Asmodai]], [[Beelzebub]] a [[Belial]].
 
==Gairdarddiad ac enwau eraill==
 
Daw'r gair "diafol" o'r [[Groeg (iaith)|Groeg]] Διάβολος ''diabolos'' ("athrodydd") Cafodd yr enw Groeg ei ddefnyddio mewn fersiynau Groeg o'r [[Beibl]] yn lle'r enw [[Hebraeg]] '''הַשָׂטָן''' ''ha-Satan'' ("y cyhuddwr") a roes yr enw [[Satan]] inni. Yn ogystal â [[Satan]] denyddir nifer o enwau am y Diafol, yn cynnwys [[Lwsiffer]], [[Asmodeus]], [[Asasel]], [[Samael]], [[Beelsebwl]]. [[Mastema]] a [[Belial]]. Yn Islam, cyfeirir at y Diafol fel شيطان, ''Iblis'', sydd o bosib yn tarddu o ''diabolos''.
 
==Y Diafol yn ôl crefydd==
===Iddewiaeth===
Er nad yw'r Diafol yn chwarae rôl bwysig mewn [[Iddewiaeth]] o'r brif ffrwd, yn y ''[[Zohar]]'' fe'i gelwir [[Samael]], y "duw gwenwynig", yr angel dinistriol, yr ymgnawdoliad o bechod, y Sarff, yr Hen sarff, y Sarff Fawr, yr Ysbryd Drwg, y Temtiwr, a Satan. Fel yn y chwedl ynglŷn â [[Lwsiffer]], roedd Samael yn angel grymus a ddisgynnodd i'r [[ddaear]], ond yn wahanol i [[Lwsiffer]] disgynnodd Samael o'i wirfodd ar gefn sarff, ac ar ôl newid ei ffurf i ffurf sarff temtiodd Efa gyda'r afal. Satan yw ei enw pan fo'n sarff, ond "beth bynnag yw ei enw, efe yw'r un a elwir yr ysbryd drygionus".<ref>[http://www.sacred-texts.com/jud/zdm/zdm014.htm Sacred Texts: Zohar, The Kings Palaces]</ref><ref>[http://www.sacred-texts.com/jud/zdm/zdm025.htm Sacred Texts: Zohar, Chapter XVI]</ref>
 
Yn ''[[Llyfr y Jiwbilîs]]'' mae'r Diafol yn ymddangos dan yr enw y Tywysog [[Mastema]], enw sy'n dod o'r [[Hebraeg]] משטמה ''mastemah'' ("casineb"; "gelyniaeth").
 
===Cristnogaeth===
Mewn [[Cristnogaeth]] mae'r Diafol, dan yr enwau [[Satan]], [[Lwsiffer]] a [[Beelsebwl]] fel arfer yn cael ei bortreadu fel angel a wrthryfelodd yn erbyn [[Duw]] ac fel canlyniad cafodd ei daflu i lawr i [[uffern]]. Mae ysgolheigion bellach yn derbyn bod y cyfeiriad at gwymp Lwsiffer yn [[Llyfr Eseia]] 14:12 ("seren ddydd" yn y ''[[Beibl|Beibl Cymraeg Newydd]]'')<ref group=nodiadau>"O fel y syrthaist o'r nefoedd, ti, seren ddydd, fab y wawr! Fe'th dorrwyd i'r llawr, ti, a fu'n llorio'r cenhedloedd."</ref> mewn gwirionedd yn cyfeirio at frenin Babylonaidd.<ref>Gweler er enghraifft [http://studylight.org/con/ntb/view.cgi?number=T3103 Nave's Topical Bible], [http://studylight.org/dic/hbd/view.cgi?number=T3937 Holman Bible Dictionary] a [http://studylight.org/com/acc/view.cgi?book=isa&chapter=14&verse=12#Isa14_12 Adam Clarke Commentary].</ref>
 
Fel yn achos y ''[[Zohar]]'', mae [[Satan]] yn cael ei gysylltu â'r sarff a demtiodd [[Efa]].
 
===Islam===
[[Delwedd:Iblis.jpg|bawd|dde|150px|Iblis]]
Mewn [[Islam]] cyfeirir at y Diafol gyda'r enwau شيطان, ''Iblis'' (o Διάβολος) a شيطان, ''Shayṭān'' ("gelyn"). Mae Iblis yn Jinni (جني, ''jinnī'') sef yn fod neu ysbryd wedi ei greu o dân di-fwg yn lle o glai. Dyrchafwyd Iblis i sefyll ymhlith yr angylion, ond cafodd ei alltudio am beidio â phlygu o flaen [[Adda]] ar orchymyn [[Duw]]. Gwaith Iblis bellach yw temtio dynion, ac mae Iblis yn gwneud hynny gyda chaniatâd yr Hollalluog.
 
Mae'r Diafol yn ymddangos mewn rhyw 39 o [[swra|swrâu]] yn y [[Coran]].
 
==Nodiadau==
 
{{cyfeiriadau|group=nodiadau}}
 
==Cyfeiriadau==
 
<references/>
 
[[Categori:Cristnogaeth]]
[[Categori:Islam]]
[[Categori:Iddewiaeth]]
 
[[ar:شيطان]]