Bara: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 19:
 
Mae'r gair "torth", ar y llaw arall, yn fenthyciad o'r [[Lladin]], "torta", ac fe'i ceir mewn Cernyweg Canol 'torth' ac mewn Llydaweg Canol "torz" a Gwyddeleg Canol "tort".
 
==Mathau o fara==
*Bara Mate</br>
:Pan oeddwn yn blentyn yn Llwyncelyn, Brynberian roedd fy mam yn pobi Bara Mate. Roedd yn talu dyn i dorri'r mate (y donnen o fawn ar wyneb y gors) ar y mynydd, yna fyddai yn eu codi yn sawl crit i'w sychu. Ar ôl iddynt sychu fe fyddent yn cael eu cludo i'r ydlan a'u gvneud yn das a'u toi â brwyn. Pan fyddai fy mam yn mynd i bobi byddai yn cymryd pump neu chwe maten o'r das a'u rhoi at ei gilydd a'u cynnau. Ar ôl iddynt gochi byddai yn eu hagor er mwyn dodi'r ffwrn yn y canol, yna rhoi'r dorth yn y ffwrn a'i chau ā'r clawr a dodi'r mate nol drosti. Dyna'r bara gorau brofais i erioed. Roedd fy mam yn pobi tarten yr un modd.
 
Tybed beth fyddai gair y gogledd am mate (matiau), sef y donnen o fawn ar wyneb y gors. <ref>Sion Roberts ym Mwletin Llên Natur rhifyn 70[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn70.pdf]</ref>
 
 
==Gweler hefyd==