Hoyw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ArthurBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: ml:കുണ്ടൻ
Like anybody cares about un sgwrs ar maes-e
Llinell 7:
Yn [[20fed ganrif|yr ugeinfed ganrif]] lledaenodd y defnydd o ''hoyw'' fel term i ddisgrifio cyfunrywioldeb. Datblygodd y synnwyr newydd hwn dan ddylanwad y gair [[Saesneg]] ''gay'', sef, yn ei ystyr traddodiadol, y cyfieithiad agosaf at ''hoyw''; oherwydd y newid yn ystyr y gair Saesneg, a oedd wedi cael ei gymhwyso at gyfunrywioldeb erbyn degawdau cynnar y ganrif, gweliwyd newid yn ystyr y gair Cymraeg hefyd. Heddiw mae ''hoyw'' wedi ei safoni fel y term Cymraeg anffurfiol i ddisgrifio cyfunrywioldeb,<ref>Gweler defnydd o'r gair ''hoyw'' gan y [[BBC]] ([http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_5240000/newsid_5246400/5246482.stm]), [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] ([http://new.wales.gov.uk/news/ThirdAssembly/Equality/2007/1824414/?lang=cy]), [[GIG Cymru|Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru]] ([http://www.wales.nhs.uk/w-searchresults.cfm?q=hoyw&requiredfields=DC%252Elanguage%3Acym]), a'r mudiad hawliau [[LHDT]] [[Stonewall (DU)|Stonewall]] ([http://www.stonewallcymru.org.uk/cymru/welsh/]).</ref> gydag ''hoywon'' fel gair lluosog am gyfunrywiolion. Ond er bod ''hoyw'' yn cyfeirio at holl bobl gyfunrywiol mewn rhai cyd-destunau, mae'r term ''[[lesbiad]]'' yn rhyw-benodol (mae'n disgrifio menywod cyfunrywiol yn unig), felly weithiau defnyddir ''hoyw'' a ''hoywon'' i ddisgrifio dynion yn unig (gweler [[Cyfunrywioldeb#Terminoleg a geirdarddiad|terminoleg cyfunrywioldeb]]). Gall hefyd disgrifio pethau sy'n gyffredin i bobl gyfunrywiol, e.e. hanes hoyw, cerddoriaeth hoyw. Weithiau defnyddir y gair ''hoyw'' i gyfeirio at berthnasoedd rhwng pobl o'r un ryw, er enghraifft ''priodas hoyw'', er bod rhai cefnogwyr [[LHDT]] yn annog yn erbyn y defnydd hwn ar y sail ei fod yn eithrio pobl [[deurywioldeb|ddeurywiol]] a [[trawsrywedd|thrawsryweddol]] ac yn annog defnyddio ''cyfunryw'' yn lle.
 
Yn y Saesneg, defnydd dadleuol o'r term ''gay'' yw i ddisgrifio rhywbeth annymunol, e.e. ''that's so gay'' ("mae hwnna mor hoyw"). Nid yw'r cymhwysiad hwn fel term dirmygus wedi'i drosglwyddo i Gymraeg gyffredin.<ref>Er hyn, gweler defnydd ar un sgwrs ar [[maes-e]] o ''hoyw'' fel gair sarhaus. [http://maes-e.com/viewtopic.php?f=28&t=19652&p=294819]</ref>
 
== Cyfeiriadau ==
<div class="references-small"><references /></div>