Adelaide Sophia Claxton: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deb (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
1989 (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 15:
Mae paentiadau Claxton yn cyfuno golygfeydd o fywyd domestig gydag elfennau llenyddol neu ffantasi fel ysbrydion a breuddwydion. Dechreuodd arddangos ei gwaith ar ddiwedd y 1850au yng Nghymdeithas yr Artistiaid Benywaidd ''(Society of Women Artists).'' Rhwng y 1850au a 1896 arddangoswyd sawl enghraifft o'i gwaith yn [[Academi Frenhinol y Celfyddydau]], Academi Frenhinol Hibernaidd, a Chymdeithas Frenhinol Artistiaid Prydain, yn ogystal â Chymdeithas yr Artistiaid Benywaidd. Roedd un o'i gweithiau, ''A Midsummer Night's Dream at Hampton Court'', mor boblogaidd ei bod hi wedi paentio 5 copi ohoni; peintiodd un arall, ''Little Nell'', 13 gwaith. Mae ''Wonderland'', darlun sy'n dangos merch fach yn darllen straeon gan [[y Brodyr Grimm]] wrth oleuadau [[cannwyll]], wedi cael ei atgynhyrchu nifer o weithiau. Seiliodd yr arlunydd Saesneg, [[Walter Sickert]], ei baentiad olew ''She Was the Belle of the Ball (After Adelaide Claxton)'' ar un o'i gweithiau.
[[Delwedd:
Enillodd Claxton ei bywoliaeth yn rhannol trwy ei phaentiadau ac yn rhannol trwy werthu darluniau comig a lluniau dychanol o'r gymdeithas bonheddig i gylchgronau poblogaidd fel ''Bow Bells'', ''The Illustrated London News'', ''London Society'', ''Judy'' (lle roedd hi'n un o'r prif ddarlunwyr), <ref name=brake>Brake, Laurel, and Marysa Demoor. ''Dictionary of Nineteenth-Century Journalism in Great Britain and Ireland''. Academia Press, 2009, p. 126.</ref>a nifer o gyhoeddiadau eraill. Hi oedd un o'r artistiaid benywaidd cyntaf yng ngwledydd Prydain i weithio'n rheolaidd yn y farchnad gylchgrawn, lle cafodd ei thalu rhwng £ 2-£7 am bob darlun. Mor gynnar â 1859, ymddangosodd ei pheintiad ''The Standard-Carrier'' ar glawr blaen yr ''Illustrated Times''<ref name=mvr>Van Remoortel, Marianne, ed. "The Fine Art of Satire: Florence and Adelaide Claxton and the Magazines." In ''Women, Work and the Victorian Periodical: Living by the Press''. Palgrave Macmillan, 2015, pp. 92–114.</ref>. Roedd Claxton hefyd yn awdur ddau lyfr darluniadol, ''A Shillingsworth of Sugar-Plums'' (1867) a ''Brainy Odds and Ends'' (1904).<ref name=sickert>Baron, Wendy, and Walter Sickert. ''Sickert: Paintings and Drawings''. Yale University Press, 2006, p.504.</ref>
|