Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cyfoes
ehangu rhywfaint
Llinell 3:
 
Cyflwynwyd y mesur gan [[Alun Ffred Jones]] [[Aelod Cynulliad|AC]], y Gweinidog dros Dreftadaeth, ar 4 Mawrth 2010.<ref name="Cynulliad">{{dyf gwe |url=http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislation-measures-wl.htm |teitl=Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) 2010 |cyhoeddwr=[[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] |dyddiadcyrchiad=5 Mawrth |blwyddyncyrchiad=2010 }}</ref>
 
==Hanes==
Ar ôl i'r [[Y Blaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]] a [[Plaid Cymru|Phlaid Cymru]] ffurfio llywodraeth glymblaid [[Cymru'n Un]] yng Ngorffennaf 2007 roedd addewid yn eu cytundeb i greu "deddf newydd i gadarnhau statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg ac estyn hawliau i ddefnyddio gwasanaethau yn y Gymraeg". Yn Ionawr 2009 dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru [[Paul Murphy]] y gallai'r broses ar gyfer cais gan [[Llywodraeth Cynulliad Cymru|Lywodraeth y Cynulliad]] am yr hawl i ddeddfu ynghylch yr iaith Gymraeg fod yn "stormus", yn debyg yn sgîl pryderon y gallai adrannau [[Whitehall]] gael eu dirwyo am beidio â defnyddio digon o Gymraeg ac amheuon nifer o [[Tŷ'r Cyffredin (DU)|Aelodau Seneddol]] Llafur am estyn cydraddoldeb ieithyddol y tu hwnt i'r sector cyhoeddus.<ref>{{dyf gwe |url=http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7820000/newsid_7829300/7829303.stm |teitl=Iaith: 'Cyfnod stormus i ddod' |dyddiad=15 Ionawr 2009 |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiadcyrchiad=7 Mawrth 2010 }}</ref>
{{eginyn-adran}}
 
==Proses==
Ar 4 Mawrth 2010 datganodd [[yr Arglwydd Elis-Thomas]], [[Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Llywydd y Cynulliad]], bod darpariaethau'r mesur arfaethedig o fewn cymhwysedd deddfwriaethol [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]].<ref>{{dyf gwe |url=http://www.cynulliadcymru.org/ms-ld7944-pos-e.pdf |teitl=Datganiad y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol&mdash;Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) |dyddiad=4 Mawrth 2010 |cyhoeddwr=[[Yr Arglwydd Elis-Thomas]], [[Llywydd y Cynulliad]], [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] |dyddiadcyrchiad=7 Mawrth 2010 }}</ref>
 
==Ymateb==
{{blwch dyfyniad |width=350px |align=right |quote="R'yn ni am i’r iaith gael ei thrin fel cydraddoldebau eraill lle mae unigolion yn cael hawliau sylfaenol. Ac r'yn ni eisiau i'r Mesur ffitio i mewn gyda chyfundrefn hawliau ryngwladol. Mae pobol yn delio gyda materion fel hyn ar draws y byd." |source=Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg<ref>{{dyf gwe |url=http://www.golwg360.com/UI/News/ViewNewsDetails.aspx?ID=10383 |teitl=Ymateb - ‘Tŷ ar y tywod’ yw’r Mesur Iaith |dyddiad=4 Mawrth 2010 |cyhoeddwr=[[Golwg|Golwg360]] |dyddiadcyrchiad=7 Mawrth 2010 }}</ref> }}
Croesawyd cyhoeddiad y mesur arfaethedig fel "diwrnod hanesyddol" gan [[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg|Gymdeithas yr Iaith Gymraeg]], er disgrifiodd y mudiad hepgor sôn am [[hawliau iaith|hawliau]] o'r mesur "fel [[Dameg yr Adeiladwyr Call a Ffôl|adeiladu tŷ ar dywod]]".<ref>{{dyf gwe |url=http://cymdeithas.org/2010/03/04/ein_ymateb_ir_mesur_iaith_gymraeg.html |cyhoeddwr=[[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg]] |teitl=Ein ymateb i'r Mesur Iaith Gymraeg |dyddiad=4 Mawrth 2010 |dyddiadcyrchiad=7 Mawrth 2010 }}</ref>
 
==Gweler hefyd==