Cerddoriaeth boblogaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Operetta: clean up, replaced: 9fed ganrif → 9g (2) using AWB
Llinell 11:
 
== Tin Pan Alley ==
Tua [[1885]] fe sefydlwyd llawer o gyhoeddwyr cerddoriaeth mewn rhan fach o '''W.28th st.''' rhwng [[Broadway]] a [[5th ave]] yn [[Efrog Newydd]]. Roedd cyfansoddwyr yn arfer ysgrifennu caneuon a'u anfon atyn nhw. Roedden nhw'n chwarae'r ganeuon ar y piano er mwyn dewis pa rai roedden nhw'n mynd i gyhoeddi. Roedd newyddiadurwr yn digwydd cerdded i lawr y stryd a chlywed piano yn dod o bob ffenestr fe ddywedodd fod y stŵr fel sospanau yn clecian ac fe enwodd e'r stryd yn [[Tin Pan Alley]]. Daeth yr enw ''Tin Pan Alley'' i olygu yr holl gymdogaeth hyd at [[1930]] a holl ddiwydiant y gân boblogaidd hyd at y [[1950au]]. Roedd '''Denmark St.''', [[Llundain]], yn cael ei galw yn ''Tin Pan Alley'' hefyd.
Y caneuon poblogaidd cyntaf i ddod allan o ''Tin Pan Alley'' yn [[1892]] oedd "After the Ball is Over" gan Charles K. Harris a "The Man who Broke the Bank at Monte Carlo" gan Charles Coborn.