Thomas Bayes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cats
BDim crynodeb golygu
Llinell 26:
[[Athroniaeth|Athronydd]] ac [[Ystadegaeth|ystadegwr]] Seisnig o [[Swydd Hertford]] oedd y Parch. '''Thomas Bayes''' (c. [[1701]] – [[7 Ebrill]] [[1761]])<ref name="portrait" /><ref>Belhouse, D.R. [http://www2.isye.gatech.edu/~brani/isyebayes/bank/bayesbiog.pdf ''The Reverend Thomas Bayes FRS: a Biography to Celebrate the Tercentenary of his Birth'';]. Adalwyd Tachwedd 2015</ref>. Mae'n nodedig am [[theorem Bayes]] a enwyd ar ei ôl, ond na chyhoeddwyd tan wedi ei farwolaeth. Ei gyfaill, y dyngarwr byd enwog [[Richard Price]] a sylwodd ar y wybodaeth newydd hon, wrth iddo fynd drwy ei bapurau wedi'r angladd.<ref>McGrayne, Sharon Bertsch. (2011). {{Google books|_Kx5xVGuLRIC|''The Theory That Would Not Die'' p. 10.|page=10}}</ref>
 
Cynigiodd Thomas Bayes ateb i broblem 'gwrthdro tebygolrwydd' (''inverse probability'') mewn ysgrif fechan a luniodd "An Essay towards solving a Problem in the Doctrine of Chances" a ddarllenwyd i'r [[Y Gymdeithas Frenhinol|Gymdeithas Frenhinol]] yn 1763, wedi ei farwolaeth. Richard Price. wthiodd y theori hwn gan ei ddatblygu a'i gyhoeddi y flwyddyn dilynol mewn ysgrif o'r enw ''Philosophical Transactions of the Royal Society of London''. Roedd y theori'n cynnig dadl dros raniad unffurf o'r paramedr binomaidd yn hytrach na'i gynosod mewn modd cyffredinol.<ref>Edwards, A. W. G. [http://www.jstor.org/pss/4615697 "Commentary rhon the Arguments of Thomas Bayes,"] ''Scandinavian Journal of Statistics'', Cyfrol 5, Rhif 2 (1978), tt. 116–118; adalwyd 6 Awst 2011</ref>
 
Cyhoeddodd ddau lyfr yn ystod ei oes, un ohonynt am fathemateg: ''An Introduction to the Doctrine of Fluxions, and a Defence of the Mathematicians Against the Objections of the Author of The Analyst'' (heb ei enw, 1736), pan ddadleuodd dros sylfaen rhesymegol theori [[Isaac Newton]] ar [[calcwlws|galcwlws]] ac yn erbyn dadleuon negyddol George Berkeley, awdur ''The Analyst''.