Clwyf y traed a’r genau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 28:
::Yr oedd yr un goruchwylion ynghyd ar gwaith a gofal rhag i’r haint ymledu yn cymryd lle yn fferm Bryn Tirion, Ysbyty Ifan. Yr oedd milfeddygon yn mynd oddi amgylch y ffermydd cyfagos i edrych y gwartheg ar defaid o fewn y cylch o ddwy filltir. Yr oedd gwaharddiadau rhag symud anifeiliaid am dair wythnos o fewn cylch o bymtheg milltir. Yr oedd yn ddydd Sul Mehefin y 1af cyn y daeth ffermwyr cyfagos canlynol yn rhydd o’r gwaharddiad; Tŷ Mawr, Tŷ Nant, Tŷ Uchaf, Ochr Cefn Bach a Ochr Cefn canol. Yr oedd yn fis Fehefin ar y defaid ar ŵyn yn mynd i’r mynydd ac oherwydd hynny yn achosi colled i’r caeau gwair. Defnyddiwyd galwyni o disinfectant o bob math gan ffermwyr y cylch, yn cynnwys rhoi matiau o wellt a disinfectant arno ar y ffyrdd. Yr oedd yn adeg bryderus i ffermwyr y fro.... Y mae y llywodraeth yn talu tal llawn am yr anifeiliaid holl iach ac yn talu un rhan o dair am yr anifeiliaid â'r clwyf arnynt. Ond mae y cwbwl yn dibynnu ar faint fydd y prisiwr wedi ei prisio... Beth a ddwedai Robert Jones taid Tŷ’n Pwll tybed pe gwelai ddiadell defaid yr oedd mor ofalus ohoni yn mynd yn aberth i'r fflammau ar gae car tŷ Tŷ’n Pwll. Heddiw 13 o Orffennaf 1952 nid oes fawr o oelion i'w weld ar dwll yr aberth. Y mae y gwair wedi tyfu drosto ond erys y cof am y braw, y pryder ac am aberthu yr anifeiliaid diniwed.<ref>D.O. Jones, Ty Isa, Padog, Ysbyty Ifan (diolch i deulu Ty Isa)[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn56.pdf]</ref>
 
Ewch i’r Tywyddiadur<ref>http//llennatur.comcymru/Tywyddiadur</ref> i weld cofnodion y clwy’ ym mis Mawrth 2001. Gwyntoedd gafodd y bai yn yr achos hwn gan rai papurau newydd ar y pryd, yn chwythu o’r de gan ddod â’r clwy’ yma gyda llwch o’r Sahara. Darllenwch hefyd am yr haint yn 1968 a 1987.
 
== Cysylltiadau allanol ==