Capel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 10:
Beth oedd tarddiad coed y to a choed y dodrefn mewn capeli? I ble daeth y deunydd crai? Oedd y coed yn wahanol mewn gwahanol enwadau. Dyma nodyn sy'n codi'r cwestiynau a chyflwyno'r pwnc, gan Wil Williams:
 
:''Pitch Pine'' (pinwydden pyg): Dyma lun Ronnie Jeffers<ref>gweler Bwletin Llên Natur rhifyn 56 (tudalen 3)[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn56.pdf]</ref>o'r pentra ‘ma [Bethel, Bodorgan], yn atic Capel MC Bethel. Mae Ronnie'n arbenigwr ar doi - wedi bod yn gweithio ar stad leol am hanner cant o flynyddoedd. Sbiwch ar faint coed y to! ''Pitch pine'', siwr o fod. Sut yn y byd oeddan nhw'n cael y coed i'r safle i ddechra (o ystyried mai tua 3- 4 llath o hyd oedd trol) a sut oeddan nhw'n codi'r fath goed ar dop y walia sydd tua ugain troedfedd o uchder. Mae'r coed sydd yn rhedeg led y capel yn 9"x 15" a tua 40 troedfedd o hyd.
 
:''Pinus palustris'' ydi ''pitch pine'' i ni, ond ''Pinus rigido'' ydi ''pitch pine'' yn Wikipedia, hefo ''Pinus palustris'' yn cael ei alw yn ''longleafe pine''. Tybad faint sydd gan y Methodistiaid Calfinaidd i neud hefo mewnforio pitch pine i adeiladu eu capeli yn ystod y ddeunawfed ganrif? Yn ''Ships and Seamen of Anglesey 1558 - 1918'' gan Aled Eames, ceir hanes y teulu Davies, Porthaethwy, yn mynd a pobl a llechi i Ogledd America a dwad a llwythi o goed yn ôl. Buasa'n ddiddorol cael gwybod os mai ''pitch pine'' oedd y llwythi coed hynny. <ref>Wil Williams ym Mwletin Llên Natur rhifyn 56 (tudalen 3)[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn56.pdf]</ref>