Madog Min: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cymeriad ffug-hanesyddol yw '''Madog Min''' y dywedir iddo fod yn Esgob Bangor ac iddo fradychu Llywelyn ap Seisyll (m. 1023) ac wedyn ei fab [[Gruffu...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Cyhoeddwyd hanesyn am Fadog Min (''Madawc Min'') yn yr ''[[Iolo Manuscripts]]'', a gyhoeddwyd gan [[Taliesin Williams]], mab Iolo Morganwg, yn 1848. Yn ôl y testun hwnnw, ar ôl bradychu Llywelyn ap Seisyll, gwnaeth Madog yr un peth i'w fab Gruffudd a hynny am "dri chan pen gwartheg" a addawyd iddi gan "[[Harold Godwinson|Harallt Brenin y Saeson]]." Ar ôl i Fadog lwyddo yn ei fwriad ysgeler, rhoddodd y brenin y gwartheg iddo a cheisiodd Madog ffoi gyda'r gwartheg mewn llong dros y môr i [[Dulyn|Ddulyn]] yn [[Iwerddon]]. Ond suddodd y llong cyn cyrraedd Dulyn. Dihangodd pawb ar ei bwrdd heblaw Madog, a foddwyd. "Dial Duw arno" oedd hynny.<ref>Taliesin Williams (gol.), ''Iolo Manuscripts'' (ail argraffiad, Lerpwl 1888), tud. 198.</ref>
 
Gwyddom heddiw mai ffrwyth dychymyg Iolo Morganwg yw'r hwnes. [[Dyfan]] oedd Esgob Bangor yng nghyfnod teyrnasiad Gruffudd ap Llywelyn a cheir dim cofnod o esgob o'r enw Madog. Ond yn ail hanner y 19eg ganrif doedd neb wedi profi mai ffugiad oedd yr hanesyn, fel llawer o bethau eraill gan Iolo Morganwg, ac mewn canlyniad cyfeirir at frad Madog Min yn y rhan fwyaf o'r llyfrau am [[hanes Cymru]] a gyhoeddwyd yn y cyfnod hwnnw ac hefyd mewn bywgraffyddion parchus fel ''Enwogion Cymru'' (1872) gan [[Robert Williams]].
 
==Cyfeiriadau==