Madog Min: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Cyhoeddwyd hanesyn am Fadog Min (''Madawc Min'') yn yr ''[[Iolo Manuscripts]]'', a gyhoeddwyd gan [[Taliesin Williams]], mab Iolo Morganwg, yn 1848. Yn ôl y testun hwnnw, ar ôl bradychu Llywelyn ap Seisyll, gwnaeth Madog yr un peth i'w fab Gruffudd a hynny am "dri chan pen gwartheg" a addawyd iddo gan "[[Harold Godwinson|Harallt Brenin y Saeson]]." Ar ôl i Fadog lwyddo yn ei fwriad ysgeler, rhoddodd y brenin y gwartheg iddo a cheisiodd Madog ffoi gyda'r gwartheg mewn llong dros y môr i [[Dulyn|Ddulyn]] yn [[Iwerddon]]. Ond suddodd y llong cyn cyrraedd Dulyn. Dihangodd pawb ar ei bwrdd heblaw Madog, a foddwyd. "Dial Duw arno" oedd hynny.<ref>Taliesin Williams (gol.), ''Iolo Manuscripts'' (ail argraffiad, Lerpwl 1888), tud. 198.</ref>
 
Gwyddom heddiw mai ffrwyth dychymyg Iolo Morganwg yw'r hwneshanes. [[Dyfan]] oedd Esgob Bangor yng nghyfnod teyrnasiad Gruffudd ap Llywelyn a cheir dim cofnod o esgob o'r enw Madog. Yn [[1063]] ymosodwyd ar Ruffudd gan fyddin dan arweiniad Harold Godwinson ("Harallt" Iolo). Erlidwyd ef o fan i fan, ac yn rhywle yn [[Eryri]], ar 5 Awst 1063, fe'i lladdwyd. Dywed ''[[Brut y Tywysogion]]'' mai un o'i wŷr ei hun a'i lladdodd. a dehongliad [[J.E. Lloyd]] o'r cofnod yw mai drwy frad y daeth diwedd Gruffudd ap Llywelyn; Yn ôl ''[[Cronicl Ulster]]'', [[Cynan ap Iago|Cynan]], tad [[Gruffudd ap Cynan]] a mab [[Iago ab Idwal]] (a laddwyd gan Ruffudd yn 1039) oedd y dyn a gyflawnodd y weithred.<ref>John Davies, ''Hanes Cymru'' (Penguin, 1990), tud. 99.</ref>
 
Ond yn ail hanner y 19eg ganrif doedd neb wedi profi mai ffugiad oedd yr hanesyn am Fadog Min, fel llawer o bethau eraill gan Iolo Morganwg, ac mewn canlyniad cyfeirir at frad Madog Min yn y rhan fwyaf o'r llyfrau am [[hanes Cymru]] a gyhoeddwyd yn y cyfnod hwnnw ac hefyd mewn bywgraffyddion parchus fel ''Enwogion Cymru'' (1872) gan [[Robert Williams]].