Brasil: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ortográfia reduzida
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 128:
O ran arwynebedd, mae Brasil yn gorchuddio bron hanner cyfandir [[De America]]. Hi yw'r bumed wlad yn y byd o ran arwynebedd; dim ond [[Rwsia]], [[Canada]], [[Gweriniaeth Pobl Tsieina|Tsieina]] a'r [[Unol Daleithiau]] sy'n fwy. Mae'n ffinio ar wledydd [[Wrwgwái]], [[yr Ariannin]], [[Paragwâi]], [[Bolifia]], [[Periw]], [[Colombia]], [[Feneswela]], [[Gaiana]], [[Swrinam]], a [[Guiana Ffrengig]]. Dim ond dwy wlad yn Ne America sydd heb ffin â Brasil, sef [[Tsile]] ac [[Ecwador]].
 
Ceir nifer o afonydd mwyaf y cyfandir ym Mrasil. Tardda [[Afon Amazonas]], afon fwyaf y byd, ym Mheriw, ond mae'n llifo tua'r dwyrain gyda'r rhan fwyaf o'i chwrs ym Mrasil. Mae nifer o'r afonydd sy'n llifo i mewn i'r Amazonas hefyd yn bwysig iawn, yn enwedig y [[Rio Negro (Amazonas)|RioAvon Negro]].
 
Mae'r ail hwyaf o afonydd De America, [[Afon Paraná]] yn tarddu yn ne Brasil ac yn llifo tua'r de-orllewin. ,Ger dinas Salto del Guairá, mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng tair gwlad: yr Ariannin, Paragwâi a Brasil. Gerllaw'r fan hon mae [[Afon Iguazú]], sydd hefyd yn tarddu ym Mrasil, yn ymuno a hi.