Bendigeidfran fab Llŷr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Emoji Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 2:
[[Image:Harlech Statue The Two Kings.jpg|bawd|200px|"Y Ddau Frenin": Bendigeidfran yn cario corff ei nai, Gwern. Cerflun ger Castell Harlech.]]
 
Mae '''Bendigeidfran fab Llŷr''' (hefyd '''Brân Fendigaidd''') yn gymeriad yn chwedl ''[[Branwen ferch Llŷr]]'', yr ail o [[Pedair Cainc y Mabinogi|Bedair Cainc y Mabinogi]]. 🏳️
 
Mae'r chwedl yn agor gyda Bendigeidfran, a ddisgrifir fel brenin [[Ynys Prydain]], yn sefyll ar graig yn [[Harlech]] yn edrych tua'r môr. Gydag ef mae ei frawd [[Manawydan]] a dau hanner brawd, [[Nisien]] ac [[Efnysien]], sy'n feibion i'w fam, [[Penarddun]] ferch [[Beli fab Mynogan]], o briodas arall. Gwelir llongau yn dynesu, a gwelir mai [[Matholwch]] brenin [[Iwerddon]], sydd wedi dod i ofyn am chwaer Bendigeidfran, [[Branwen]], yn wraig iddo. Cytunir i'r briodas, ond yn ystod y wledd i'w dathlu mae Efnysien, hanner brawd Branwen, yn cyrraedd y llys. Mae'n ddig na ofynwyd am ei ganiatâd ef cyn trefnu'r briodas, ac mae'n anffurfio meirch Matholwch fel dial.