Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
[[Parc Cenedlaethol]] yn ne [[Cymru]] yw '''Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog'''. Mae'r parc yn gorwedd rhwng trefi [[Llandeilo]], [[Llanymddyfri]], [[Aberhonddu]], [[Y Gelli]], [[Pont-y-pŵl]] a [[Merthyr Tudful]]. Ffurfiwyd y Parc Cenedlaethol ym [[1957]].
 
Canolbwynt y parc yw mynyddoedd uchel [[Bannau Brycheiniog]]. Yng ngorllewin y parc mae'r [[Fforest Fawr]] a'r [[Mynydd Du (Sir Gaerfyrddin)|Mynydd Du]], rhostir eang, ac yn y dwyrain y tu draw i Fannau Brycheiniog mae mynyddoedd o'r un enw, [[Mynydd Du (Mynwy)|Mynydd Du]], ar y ffin â Lloegr. Gyda'i gilydd, mae'r ardaloedd hyn yn cynnig rhai o'r atyniadau naturiol harddaf yn ne Ynys Prydain.
 
Yn y parc mae nifer o lwybrau cerdded a lonydd beicio. Mae [[arwynebedd]] o 1344 [[km²]] ganddo. Gwelir sawl [[rhaeadr]] yn y parc, gan gynnwys [[Sgŵd Henrhyd]] sydd 27 medr o uchder. Yn ardal [[Ystradfellte]], ceir sawl [[ogof]] nodedig, megis [[Ogof Ffynnon Ddu]]. Gwelir [[Merlyn mynydd Cymreig|merlod mynydd Cymreig]] yn pori yn y parc.