Llyfr Coch Talgarth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Gwybedyn (sgwrs | cyfraniadau)
B typos
Llinell 1:
Ysgrifenwyd '''Llyfr Coch Talgarth''' tua'r flwyddyn 1400. Mae'n cynnwys casgliad o destunau [[rhyddiaith]] a [[barddoniaeth]] grefyddol [[Cymraeg Canol]] a gopîwyd gan ysgrifenwyr '''[[Llyfr Coch Hergest]]'''.<ref>Clifford Charles-Evans, 'The scribes of the Red Book of Hergest', ''Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru'', 21 (1979-80), 245-56.</ref>
 
Mae'n bosibl y bu Llyfr Coch Talgarth yn eiddo [[Hopcyn ap Tomas]] (fl. tua 1337 - tua 1408) o [[Ynysdawe]]. Mewn cerdd gan [[Dafydd y Coed]] dywed y bardd iddo weld casgliad llawsygrifaullawysgrifau Hopcyn ap Tomas ac yn eu plith roedd copi o'r ''[[Elucidarium]]''; gwyddys mai ysgifenwyrysgrifenwyr [[Llyfr Coch Hergest]], a noddwyd gan Hopcyn, a ysgrifenodd y testun o'r ''Elucidarium'' sydd yn Llyfr Coch Talgarth, felly mae'n bosibl mai Llyfr Coch Talgarth a welodd y bardd ym mhlasdy ei noddwr. Gwelwyd y llawysgrif gan y bardd [[Ieuan Llwyd ab y Gargam]] yn nes ymlaen hefyd.<ref>J. E. Caerwyn Williams', 'Rhyddiaith Grefyddol Cymraeg Canol (I)', ''Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol'', gol. Geraint Bowen (Gwasg Gomer, 1974), tud. 339.</ref>
 
Bu'r [[llawysgrif]] ar gadw yn [[Talgarth|Nhalgarth]], [[Brycheiniog]] am ganrifoedd wedi'i rhwymo mewn cloriau lledr coch a dyna pamsut y cafodd y llyfr ei enw. Daeth yn eiddo y casglwr llawysgrifau enwog [[John Williams (casglwr llawysgrifau)|John Williams]] ac fe'i trosglwyddwyd ganddo, gyda gweddill [[Llawysgrifau Llansteffan]], i [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Lyfrgell Genedlaethol Cymru]] yn 1909. Diogelir Llyfr Coch Talgarth heddiw yn Adran Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru lle mae'n cael ei hadnabod fel ''Llawysgrif Llanstephan 27''.
 
Mae'r testunau rhyddiaith a geir yn y Llyfr Coch yn cynnwys yr ''Elucidarium'' a chopi o ''Y Gysegrlan Fuchedd''. Ymhlith y cerddi ceir ''Mab Mair'', rhan o ''Cyssul Addaon'' ac ''[[Englynion y Clywaid]]''.