John Henry Williams (VC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 31:
Mae bedd a maen coffa Williams ym mynwent [[Glynebwy]]. Cafodd y garreg bedd gwreiddiol ei dynnu wrth glirio'r fynwent a chafodd carreg newydd ei godi ar 21 Hydref 1990.
 
Ym Medi 2018, cysegrodd pentrefwyr Villers-Outréaux cofeb i Williams a gomisiynwyd yn arbennig i'w goffáu ef ac i fynegi eu diolch iddo am achub eu pentref rhag ei ddinistrio. Mae cofeb iddo hefyd yn Nant-y-Glo. I nodi canmlwyddiant cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf gosodwyd plac er cof amdano ar fur pencadlys Cyngor Blaenau Gwent <ref name="BlGwent" /> ac i nodi canmlwyddiant diwedd y rhyfel dadorchuddwyd cofeb iddo yn [[Nant-y-glo]]<ref>[https://www.southwalesargus.co.uk/news/16896911.memorial-stone-unveiled-for-first-world-war-hero-csm-john-jack-henry-williams/ Argus 28 Medi 2018: ''Memorial stone unveiled for First World War hero CSM John (Jack) Henry Williams''] adalwyd 3 Ionawr 2019</ref>. Ym mis Tachwedd 2018 awgrymwyd enwi pont newydd dros yr A465 rhwng [[Brynmawr]] a [[Gilwern]] er anrhydedd iddo. <ref>[https://www.southwalesargus.co.uk/news/17258502.new-a465-bridge-could-be-named-in-honour-of-first-world-war-hero-john-henry-williams/ Argus 27 Tachwedd 2018: ''New A465 bridge could be named in honour of First World War hero John Henry Williams''] adalwyd 3 Ionawr 2019</ref>. Agorwyd ''Bont Jack Williams'' ym mis Ionawr 2019 <ref>[https://www.itv.com/news/wales/2019-01-31/the-welshman-honoured-for-single-handedly-saving-a-french-village-in-wwi/ ITV 31 Ionawr 2019 ''The Welshman honoured for single-handedly saving a French village in WWI''] adalwyd 31 Ionawr 2019</ref>
 
Mae Croes Victoria Williams yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Gatrodol [[Y Cymry Brenhinol]] yn [[Aberhonddu]].