Iolo Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 18:
Canodd Iolo farwnadau i Dudur o Fôn a'i feibion, Syr [[Rhys ap Gruffudd]], ac [[Ithel ap Robert]]. Yn fwy arbennig, ceir ar glawr dair marwnad bwysig i'r beirdd [[Dafydd ap Gwilym]], [[Llywelyn Goch ap Meurig Hen]] ac [[Ithel Ddu]].<ref name="ReferenceA"/>
 
Yn ei farwnad i [[Goronwy ap Tudur]] cofnododd Iolo Goch yr amgylchiadau a achosodd ei farwolaeth yn Swydd [[Caint]] hyd ei angladd ym [[Penmynydd|Mhenmynydd]], [[Ynys Môn|Môn]], gan gynnwys cyfres o ddigwyddiadau sydd wedi eu lleoli a'u dyddio yn fanwl ond sydd eto yn herio hygrededd er gwaethaf y cadarnhad i rai digwyddiafau a geir o ffynonellau hanesyddol anibynnol. Dyma grynodeb o waith y Dr. Dafydd Johnston ar y pwnc:
 
:Ar yr 22ain Mawrth, ddiwedd y flwyddyn 1381 yn ôl cyfri'r hen galendr, bu i Goronwy ap Tudur, uchelwr o linach Tuduriaid Penmynydd, Môn, foddi "dan lifddyfredd" yng Nghaint. Cyfnod trychinebus ar unrhyw gyfrif a ddilynodd, a llawn arwyddocad i Iolo Goch a'r meddwl Canol Oesol. Iolo oedd y bardd a gyfansoddodd y cywyddau swmpus y mae'r sylwadau hyn wedi eu seilio arnynt. Soniodd am ddiffyg ar yr haul yn parhau am fis ym Môn dros y cyfnod. "Mae cwmwl fal mwg [llosgi] gwymon" a "clipsis fis ar Fôn" meddai. Gor-ddweud oedd "y mis" mae'n debyg - dyna oedd hyd arferol y galaru ar ôl marwolaeth. Dydd Mawrth y 1af Ebrill yn y mis a'r flwyddyn ([[Calendr]]Jiwleaidd) ganlynol, a diwrnod cyn i gorff Goronwy gyrraedd man ei gladdu yn Llanfaes, bu storm - "Tymestl a ddoeth, neud Diwmawrth". Llanfaes wrth gwrs oedd man claddu traddodiadol Tywysogion Gwynedd ers amser ei sefydlu gan Lywelyn Fawr, ac roedd Tuduriaid Penmynydd yn ddisgynyddion i Ednyfed Fychan, distain Llywelyn. Roedd y daith yn hir o Gaint i Fôn yr adeg honno - taith o 30 milltir y dydd yn ôl amcangyfrif yr Athro Dafydd Johnston, neu yn hytrach yn ôl ei raglen Gwgl[[Google Maps]] "gan osgoi'r traffyrdd"! "A'i arwain ar elorwydd o Loegr i Fôn" meddai Iolo am hebrwng y corff yn ôl - taith dros dir felly, nid môrdaith. Diolch i'r Athro am ganiatâu i mi gyflwyno'r braslun hwn o'i ddarlith ddiweddar.

:Mae'r fath fanylder ynglyn â dyddiadau marwolaeth yn dra phrin mewn barddoniaeth yr oes hon meddai Johnstone; prinach fyth mae'n debyg yw cofnodion manwl daeargrynfeydd[[daeargryn]]feydd a stormydd. Yn fuan cyn angladd Goronwy, ar y 3 Ebrill, a thri diwrnod cyn Sul y Pasg, bu farw'r Archddeacon [[Ithel ap Robert]], noddwr hael i'r bardd. Ychwanegodd ei farwolaeth ddyletswydd barddol arall ar Iolo, a phroffwydoliaeth gwae. I ddwysáu'r dychryn, am dri o'r gloch pry'nhawn y 21ain Fai, pedwar diwrnod cyn i Iolo gyflwyno ei gywydd i goffháu Ithel, ar y Sulgwyn mae'n debyg, cafwyd daeargryn o dan fôr y Sianel ger Caint (heb fod nepell wrth gwrs o fan marwolaeth Goronwy). Yn ddios, gwyddai Iolo am y ddaeargryn, a gwyddom hefyd iddi ddifrodi [cadeirlan ]][[Caergaint]]. Yn ystod prawf [[John Wycliffe|Wycliffe]] am heresi a gynhelid ar y pryd, fe ddygodd y ddwy ochr y tirgryniad hwn fel tystiolaeth o blaid eu hachos hwy. Dywedodd Iolo fel y bu i "blanhigion pla" dorri'r ddaear "yr awr hon", a'i fod yn "''Hysbys ymhob llys a llan / Dorri'r ddaear yn deirran"'' - pob llys a llan gan gynnwys Môn hyd yn oed?

:Amcennir gan wybodusion Prifysgol Casnewydd, mai rhwng 5 a 6 nerth [[Richter]] oedd y cryndod. Y ddaeargryn fwyaf a gafwyd yn Mhrydain ers dechrau cofnodion gwyddonol oedd honno ar y Dogger Bank o dan [[Môr y Gogledd]] yn 1931 a fesurwyd yn 6.1 nerth Richter. Achosodd hon [[tsunami]] (cyn i'r gair dreiddio i'n geirfa pob dydd), sef llifogydd ar hyd yr arfordir cyfagos, a difrod i drefi ar hyd dwyrain Lloegr. Fe 'stumiwyd twrtŵr eglwys [[Filey]], swydd [[Efrog]] gan y cryndod. Yn ôl Wikipedia, disodlwyd yn ei sgil pen cwyr y llofrydd ddoctor Crippen ym Madame Tussauds, Llundain - y man pellaf yr honnir i'r ddaeargryn hon gael ei theimlo. Cofnodwyd ddaeargryn Iolo hefyd mewn cerdd Saesneg: '

::''Pinacles, steples, to ground hit cast; and al was for warnyng to be ware'',

:a chan Iolo i berwyl tebyg: "Siglo a wnâi'r groes eglwys..." ac fel ag i’w dynnu sylw at y ffaith mai daeargryn tanddwr ydoedd "...Fal llong eang wrth angor, / Crin fydd yn crynu ar fôr". Er i Iolo a llawer o'i gyfoeswyr ddeall mai "pellennog" (crwn) oedd y ddaear ac nid bwrdd gwastad, melltith gan ei dduwoedd ei grymoedd.<ref>Addasiad o erthygl gan Duncan Brown a ymddangosodd gyntaf yn Y Cymro</ref>
 
::Siglo a wnâi'r groes eglwys..."
 
ac fel ag i’w dynnu sylw at y ffaith mai daeargryn tanddwr ydoedd
 
::..Fal llong eang wrth angor, / Crin fydd yn crynu ar fôr.
 
Er i Iolo a llawer o'i gyfoeswyr ddeall mai "pellennog" (crwn) oedd y ddaear ac nid bwrdd gwastad, melltith gan ei dduwoedd oedd ei grymoedd.<ref>Addasiad o erthygl gan Duncan Brown a ymddangosodd gyntaf yn Y Cymro</ref>
Llun: CorffddelwGoronwy ap Tudur a’i wraig Morfudd, Eglwys Penmynydd, Môn