Apocryffa'r Beibl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
B dol
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 7:
Yn ogystal â'r llyfrau apocryffaidd a gynhwysir yng nghyfieithiad y Deg a Thrigain, mae sawl gwaith arall a ystyrir yn Apocryffa'r Hen Destament: llyfrau Esdras ([[Llyfr Cyntaf Esdras|1]] a [[Ail Lyfr Esdras|2]]), [[Yr Ychwanegiadau at Lyfr Esther|yr Ychwanegiadau]] at [[Llyfr Esther|Lyfr Esther]] (Esther 10:4-10), [[Cân y Tri Llanc]] ([[Llyfr Daniel|Daniel]] 3:24-90), [[Swsanna]] (Daniel 13), [[Bel a'r Ddraig]] (Daniel 14), a [[Gweddi Manase]]. Mae'r [[Eglwys Gatholig Rufeinig]] a'r [[Eglwys Uniongred Ddwyreiniol]] yn dilyn trefn y Deg a Thrigain, ac yn ystyried holl Apocryffa'r Hen Destament yn ganonaidd, ac eithrio dau lyfr Esdras a Gweddi Manase. Cyfeirir at y testunau a ystyrir yn apocryffaidd gan y [[Protestaniaeth|Protestaniaid]], ond nid gan y Pabyddion a'r Uniongredwyr, yn llyfrau isganonaidd,<ref>{{dyf GPC |gair=isganonaidd |dyddiadcyrchiad=13 Medi 2018 }}</ref> ailganonaidd,<ref>{{dyf GPC |gair=ailganonaidd |dyddiadcyrchiad=13 Medi 2018 }}</ref> neu'n ddewteroganonaidd.
 
Rhoddir yr enw [[ffugysgrifeniadau]] (Groeg: ''pseudepigraphos'') ar y testunau nas cynhwysir yn y canon Beiblaidd gan unrhyw o'r prif enwadau, na chan yr Iddewon. Ymhlith y gweithiau hyn mae [[Llyfr y Jiwbilïau]], [[Salmau Solomon]], [[Pedwerydd Llyfr y Macabeaid]], [[Llyfr Enoc]], [[Pedwerydd Llyfr Esra]], [[Apocalyps Baruch]], a [[Testamentau'r Deuddeg Patriarch|Thestamentau'r Deuddeg Patriarch]]. Priodolir y rhain i gyd i awduron a sonir amdanynt yng nghanon yr Hen Destament, ac maent yn dyddio o'r cyfnod rhyngdestamentaidd, a ni cheir ffynonellau [[Hebraeg]] nac [[Aramaeg]] gwreiddiol ohonynt. Cafwyd hyd i ragor o ffugysgrifeniadau, yn Hebraeg ac Aramaeg, yn [[Sgroliau'r Môr Marw]].
 
== Y Testament Newydd ==