Gnaeus Pompeius Magnus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: uk:Гней Помпей Великий |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: zh:庞培; cosmetic changes |
||
Llinell 1:
[[
Cadfridog a gwleidydd Rhufeinig oedd '''Gnaeus (neu Cnaeus) Pompeius Magnus''' ([[29 Medi]] [[106 CC]]–[[28 Medi]] [[48 CC]]).
Llinell 7:
Bu farw Pompeius Strabo yn [[87 CC]], yn ystod yr ymryson rhwng [[Gaius Marius]] a [[Lucius Cornelius Sulla]]. Pan ddaeth y newyddion yn [[84 CC]] fod Sulla ar fin dychwelyd i'r Eidal wedi'r rhyfel yn erbyn [[Mithridates VI, brenin Pontus|Mithridates]], brenin [[Pontus]], cododd Pompeius fyddin o dair lleng yn Picenum i'w gefnogi. Enillodd ffafr Sulla, a'i perswadiodd i ysgaru ei wraig i briodi [[Aemilia Scaura]], llysferch Sulla. Dangosodd Pompeius ei hun yn gadfridog galloug yn y rhyfeloedd hyn, yn yr Eidal ac yna yn ymladd yn erbyn cefnogwyr Marius yng Ngogledd Affrica a [[Sicilia]]. Cipiodd Sicilia yn [[82 CC]].
Yn [[77 CC]] gadawodd yr Eidal am [[Sbaen]] i ymuno a [[Quintus Metellus Pius]] yn erbyn [[Quintus Sertorius]], un arall o gefnogwyr Marius. Ni chafodd lawer o lwyddiant ar y cychwyn; roedd Sertorius yn elyn anodd ei orchfygu. Fodd bynnag yn [[72 CC]] llofruddiwyd Sertorius gan un o'i swyddogion ei hun, [[Marcus Perperna Vento]], a gallodd Pompeius orchfygu
Dychwelodd Pompeius a'i fyddin i'r Eidal yn [[71 CC]]. Roedd [[Crassus]] yn ymladd yn erbyn y caethweision dan arweiniaid [[Spartacus]], ac newydd eu gorchfygu mewn brwydr fawr. Daeth Pompeius a'i fyddin ar draws gweddillion o fyddin Spartacus a'u gorchfgu, ac yna hawlio ei fod wedi rhoi diwedd ar y rhyfel, gan ennyn cynddaredd Crassus.
Llinell 13:
Yn [[67 CC]], rhoddwyd iddo'r dasg o ddelio a'r [[Morleidr|morladron]] oedd wedi dod yn bla ym [[Môr y Canoldir]]. Gwnaeth hyn yn llwyddiannus dros ben. Yn [[66 CC]] penodwyd ef i olynu [[Lucullus|Lucius Licinius Lucullus]] fel cadfridog y fyddin oedd yn ymladd yn erbyn Mithridates. Gorffennodd Pompeius y rhyfel yn llwyddiannus, gan orchfygu Mithridates a'i fab-yng-nghyfraith [[Tigranes Fawr]], brenin [[Armenia]], a chipio [[Tigranocerta]], prifddinas Armenia. Fodd bynnag, haerai Lucullus ei fod ef eisoes wedi gorchfygu Mithridates, a bod Pompeius yn cymeryd y clod. Cipiodd [[Syria (talaith Rufeinig)|Syria]] yn [[64 CC]], ac erbyn [[62 CC]] roedd Pompeius rhoi tiriogaethau eang dan reolaeth Rhufain, gan gynnwys cipio [[Jeriwsalem]].
Daeth Pompeius i gytundeb a [[Iŵl Cesar]] a Crassus i rannu grym, a phriododd Pompeius ferch Cesar, Julia. Bu farw Julia wrth eni plentyn yn [[54 CC]], ac yn ddiweddarch y flwyddyn honno, lladdwyd Crassus gan y [[Parthia]]id. Yn [[52 CC]] priododd Pompeius [[Cornelia Metella]], merch Quintus Caecilius [[Metellus Scipio]], un o elynion pennaf Cesar. Cyn hir aeth yn rhyfel rhwng Pompeius a Cesar. Pan groesodd Cesar [[Afon Rubicon]] yn [[49 CC]], enciliodd Pompeius i
[[Categori:Genedigaethau 106 CC|Pompeius Magnus, Gnaeus]]
Llinell 68 ⟶ 67:
[[ur:پامپے]]
[[vi:Pompey]]
[[zh:
|