Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Edward IV, brenin Lloegr"

No change in size ,  3 blynedd yn ôl
B (Gwybodlen wicidata)
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
 
==Yng Nghymru==
Pan goronwyd Edward IV yn 1461 llac oedd ei afael ar Gymru. Y de-ddwyrain yn unig oedd yn ddiogel dan awdurdod iarll Warwick a Herbert, a phrin oedd ei ddilynwyr yn y gorllewin a'r gogledd. Yn dilyn brwydr Towton, ym Mawrth 1461, dyrchafwyd [[William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469)|Wiliam Herbert]] i safle uwchben pob unigolyn arall yng Nghymru: yn ustus, siambrlen, stiward a phrif fforestydd siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, gyda'i frawd Rhisiart yn ddirprwy, a chomisiynwyd Wiliam Herbert a'i frawd yng nghyfraith, Walter Devereux, i feddiannu iarllaeth Penfro a'r tiroedd a gysylltid â hi, tiroedd [[Siasbar Tudur]] a'i nai [[Harri Tudur]]. Yna meddiannodd Herbert diroedd teulu Buckingham yng Nghymru, gan gynnwys Brycheiniog a Gwynllwg. Ffodd Siasbar Tudur, hanner brawd Harri VI, rhagddynt i'r Gogledd, a syrthiodd [[castell Penfro]] i ddwylo Herbert. Yno roedd y bachgen pedair oed, Harri Tudur, mab i frawd Siasbar. Cymerwyd ef gan Herbert i Raglan ac yno y magwyd Harri Tudur hyd 1469. Trechwyd Siasbar ym mrwydr Twthill ger Caernarfon, a ffôffffôdd am ei fywyd i [[Iwerddon]].
 
Prin oedd awdurdod Edward IV yn nhair sir y Gogledd, a bu raid i Herbert ddod â byddin anferthol i Wynedd cyn llwyddo i ddarostwng y trigolion. Ildiodd [[castell Harlech]] iddo ar 14 Awst, a chanodd [[Guto'r Glyn]] gywydd i longyfarch Herbert, gan ofyn ar yr un gwynt iddo ddangos trugaredd tuag at uchelwyr Gwynedd.