Legio II Augusta: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
D'ohBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ro:Legiunea a II-a Sabina
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: ro:Legiunea a II-a Augusta; cosmetic changes
Llinell 1:
Roedd '''Legio II ''Augusta''''', yn [[Lleng Rufeinig]] a ffurfiwyd gan Gaius Vibius Pansa Caetronianus yn [[43 CC]], Bu'r lleng yng [[Caerllion|Nghaerllion]] (''Isca Silurum'') am gyfnod hir, efallai tan ddechrau'r bedwaredd ganrif. Ei symbolau oedd y [[Capricornus]], [[Pegasus]] a [[Mawrth (duw)|Mawrth]].
 
Ffurfiwyd y lleng gan [[Augustus|Octavianus]] (Augustus yn nes ymlaen) a'r [[Conswl Rhufeinig|conswl]] Gaius Vibius Pansa Caetronianus yn [[43 CC]], i ymladd yn erbyn [[Marcus Antonius]]. Ymladdodd yr II ''Augusta'' ym [[Brwydr Philippi|Mrwydr Philippi]] a brwydr [[Perugia]]. Ar ddechrau teyrnasiad Augustus yn [[25 CC]], symudwyd y lleng i [[Sbaen]] i ymladd yn y Rhyfeloedd Cantabraidd, a bu'n gwersylla yn nhalaith [[Hispania Tarraconensis]]. Pan ddinistriwyd llengoedd XVII, XVIII a XIX ym [[Brwydr y Teutoburgerwald|Mrwydr y Teutoburgerwald]] yn [[9]] O.C., symudwyd yr II ''Augusta'' i [[Germania]], efallai i ardal [[Mainz]]. Wedi [[17]], roedd yn Argentorate ([[Strasbourg]] heddiw).
 
Cymerodd y lleng ran yn yr ymosodiad ar [[Prydain|Brydain]] yn [[43]] yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr [[Claudius]]. Legad y lleng ar y pryd oedd [[Vespasian]], fyddai'n dod yn ymerawdwr yn nes ymlaen. Bu'n ymladd yn erbyn y [[Durotriges]] yng ngorllewin Lloegr. Yn [[48]] adeiladwyd caer i'r lleng yn ''Isca Dumnoniorum'' ([[Exeter]] heddiw). Oherwydd ei buddugoliaethau dan Vespasian, ystyrid yr II ''Augusta'' yn un o'r llengoedd gorau, er iddi gael ei gorchfygu gan y [[Silwriaid]] yn [[52]]. Yn ystod gwrthryfel [[Buddug (Boudica)]] yr oedd ei legad yn absennol pan alwyd arni i ymuno a byddin [[Gaius Suetonius Paulinus]]. Y ''praefectus castrorum'' ("pennaeth y gwersyll") oedd y swyddog uchaf, a gwrthododd ufuddhau i orchymyn Suetonius. Yn ddiweddarach, wedi i Suetonius orchfygu Buddug, lladdodd ei hun.
 
Rhwng [[66]] a [[74]] roedd y lleng yn ''Glevum'' ([[Caerloyw]] heddiw), yna symudodd i [[Isca Silurum]] ([[Caerllion]] heddiw), lle'r adeiladwyd caer. Yn [[122]], bu'r II ''Augusta'' yn cynorthwyo i adeiladu [[Mur Hadrian]]. Yn [[196]] cefnogodd [[Rhestr Llywodraethwyr Rhufeinig Prydain|lywodraethwr Prydain]] [[Clodius Albinus]], oedd yn ceisio ei wneud ei hun ym ymerawdwr. Gorchfygwyd Albinus gan [[Septimius Severus]]. Yn ddiweddarch daeth Severus i Brydain i ymladd yn erbyn y llwythau Albanaidd, a symudwyd y lleng i [[Carpow]] am gyfnod. Dan fab Severus, yr ymerawdwr [[Caracalla]] derbyniodd y lleng yr enw ychwanegol "Antonina" fel cydnabyddiaeth o'i gwasanaeth iddo ef a'i dad. Dychwelodd i Gaerllion yn nheyrnasiad [[Alexander Severus]].
Llinell 10:
* [[Rhestr Llengoedd Rhufeinig]]
* [[Lleng Rufeinig]]
 
 
[[Categori:Llengoedd Rhufeinig|II Augusta]]
Llinell 28 ⟶ 27:
[[nl:Legio II Augusta]]
[[no:Legio II Augusta]]
[[ro:Legiunea a II-a SabinaAugusta]]
[[ru:II Августов легион]]
[[tr:Lejyon II Augusta]]