Iolo Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
||
Llinell 20:
Yn ei farwnad i [[Goronwy ap Tudur]] cofnododd Iolo Goch yr amgylchiadau a achosodd ei farwolaeth yn Swydd [[Caint]] hyd ei angladd ym [[Penmynydd|Mhenmynydd]], [[Ynys Môn|Môn]], gan gynnwys cyfres o ddigwyddiadau sydd wedi eu lleoli a'u dyddio yn fanwl ond sydd eto yn herio hygrededd er gwaethaf y cadarnhad i rai digwyddiafau a geir o ffynonellau hanesyddol anibynnol. Dyma grynodeb o waith y Dr. Dafydd Johnston ar y pwnc:
:Ar yr 22ain Mawrth, ddiwedd y flwyddyn 1381 yn ôl cyfri'r hen galendr, bu i Goronwy ap Tudur, uchelwr o linach Tuduriaid Penmynydd, Môn, foddi "dan lifddyfredd" yng Nghaint. Cyfnod trychinebus ar unrhyw gyfrif a ddilynodd, a llawn arwyddocad i Iolo Goch a'r meddwl [[Canol Oesoedd|Canol Oesol]]. Iolo oedd y bardd a gyfansoddodd y [[cywydd|cywyddau]] swmpus y mae'r sylwadau hyn wedi eu seilio arnynt. Soniodd am ddiffyg ar yr haul yn parhau am fis ym [[Môn]] dros y cyfnod. "Mae cwmwl fal mwg [llosgi] gwymon" a "clipsis fis ar Fôn" meddai. Gor-ddweud oedd "y mis" mae'n debyg - dyna oedd hyd arferol y galaru ar ôl marwolaeth. Dydd Mawrth y 1af Ebrill yn y mis a'r flwyddyn ([[Calendr]]Jiwleaidd) ganlynol, a diwrnod cyn i gorff Goronwy gyrraedd man ei gladdu yn Llanfaes, bu storm - "Tymestl a ddoeth, neud Diwmawrth". [[Llanfaes]] wrth gwrs oedd man claddu traddodiadol [[Tywysogion Gwynedd]] ers amser ei sefydlu gan [[Llywelyn Fawr|Lywelyn Fawr]], ac roedd [[Tuduriaid]] Penmynydd yn ddisgynyddion i [[Ednyfed Fychan]], distain Llywelyn. Roedd y daith yn hir o Gaint i Fôn yr adeg honno - taith o 30 milltir y dydd yn ôl amcangyfrif yr Athro Dafydd Johnston, neu yn hytrach yn ôl ei raglen [[Google Maps]] "gan osgoi'r traffyrdd"! "A'i arwain ar elorwydd o Loegr i Fôn" meddai Iolo am hebrwng y corff yn ôl - taith dros dir felly, nid môrdaith.
:Mae'r fath fanylder ynglyn â dyddiadau marwolaeth yn dra phrin mewn barddoniaeth yr oes hon meddai
:Amcennir gan wybodusion Prifysgol Casnewydd, mai rhwng 5 a 6 nerth [[Richter]] oedd y cryndod. Y ddaeargryn fwyaf a gafwyd yn Mhrydain ers dechrau cofnodion gwyddonol oedd honno ar y Dogger Bank o dan [[Môr y Gogledd]] yn 1931 a fesurwyd yn 6.1 nerth Richter. Achosodd hon [[tsunami]] (cyn i'r gair dreiddio i'n geirfa pob dydd), sef llifogydd ar hyd yr arfordir cyfagos, a difrod i drefi ar hyd dwyrain Lloegr. Fe 'stumiwyd tŵr eglwys [[Filey]], swydd [[Efrog]] gan y cryndod. Yn ôl Wikipedia, disodlwyd yn ei sgil pen cwyr y llofrydd ddoctor Crippen ym Madame Tussauds, Llundain - y man pellaf yr honnir i'r ddaeargryn hon gael ei theimlo. Cofnodwyd ddaeargryn Iolo hefyd mewn cerdd Saesneg: '
|