Hu Gadarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
categori
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Arwr]] Cymreig chwedlonol, ffrwyth dychymyg [[Iolo Morgannwg]] yn bennaf. Fe'i portreadir gan Iolo yn ei "Drydedd Gyfres" o [[Trioedd Ynys Prydain|Drioedd Ynys Prydain]] (a gyhoeddwyd yn y [[Myvyrian Archaiology of Wales]]) fel math o arwr cenedlaethol a oedd yn ymgorffori pob agwedd ar [[Diwylliant|ddiwylliant]] y [[Cymry]], yn fath o hynafydd totemaidd, fel petai. Yn ôl Iolo arweiniodd Hu y Cymry i [[Ynys Prydain]] o [[Deffrobani|Ddeffrobani]] ([[Sri Lanka]]). Dysgodd Hu y Cymry sut i gyfanheddu'r tir a byw yn heddychlon â'i gilydd yn ogystal a chrefft [[Cerdd Dafod]] er mwyn diogelu'r cof am yr hyn a fu. Ymddengys fod Iolo wedi benthyg Hu Gadarn o "Gywydd y Llafuruwr" gan [[Iolo Goch]] (c.[[1320]]-c.[[1398]]). Yn y cywydd hwnnw mae Iolo Goch yn adrodd sut y bu rhaid i Hu Gadarn, oedd yn [[Ymherawdr]] [[Caergystennin]], lywio aradr a bwydo ei hun o ffrwyth ei waith yn unig. Mae'r foeswers yn deillio o ffynhonnell [[Ffrangeg]] a gyfieithwyd i'r [[Cymraeg|Gymraeg]] yn y [[13eg ganrif]] dan yr enw [[Campau Charlymaen]]; trosodd y cyfieithydd enw un o'r arwyr, ''Hugun le Fort'' fel "Hu Gadarn". Roedd llawer o bobl yn credu yn y chwedl, sy'n ddeniadol, a cheir nifer o gyfeiriadau at Hu yn [[llenyddiaeth]] y [[19eg ganrif]].
 
[[Categori:Mytholeg Geltaidd]]
[[Categori:Llenyddiaeth]]
[[Categori:Llenyddiaeth Gymraeg]]