Tomen y Rhodwydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Castell mwnt a beili]] a godwyd gan [[Owain Gwynedd]] i amddiffyn gororau [[Gwynedd Is Conwy]] yw '''Tomen y Rhodwydd'''. Saif mewn ardal o gaeau a bryniau isel i'r de o [[Llandegla yn Iâl|Landegla yn Iâl]] (de-ddwyrain [[Sir Ddinbych]] heddiw).
 
Hwn, mae'n ymddangos, oedd y 'Castell yn Iâl' a godwyd gan Owain Gwynedd yn [[1149]], yn ôl ''[[Brut y Tywysogion]]'', pan gipiodd [[cantref|gantref]] [[Iâl]] oddi ar frenhinoedd [[Powys]]. Safodd y castell cyntaf hwnnw hyd [[1157]] pan gafodd ei losgi'n ulw gan [[Iorwerth Goch ap Maredudd]] (Iorwerth Goch) o Bowys yn sgîl cyrch gan [[Harri II o Loegr]] ar Wynedd. Ceir cofnod arall mewn dogfen Seisnig o 1212 sy'n cyfeirio at drwsio 'castell Iâl', ond mae'n debyg mai castell mwnt a beili arall yn yr un ardal a olygir, sef [[Tomen y Faerdre]], 3 milltir i lawr y dyffryn ger [[Llanarmon-yn-Iâl]].
 
Mae'r castell yn sefyll ar dir preifat ond gellir ei weld o'r ffordd A525 rhwng [[Wrecsam]] a [[Rhiwabon]], tua milltir a hanner i'r de-orlelwin o Landegla.
Llinell 11:
 
{{Cestyll Tywysogion Gwynedd}}
 
 
[[Categori:Cestyll Tywysogion Gwynedd]]