Afon Dwyryd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Mae '''Afon Dwyryd''' yn afon yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] yng ngogledd-orllewin [[Cymru]] sy'n llifo i'r môr gerllaw [[Porthmadog]].
 
Mae Afon Dwyryd yn tarddu i'r gogledd o [[Ffestiniog]], lle mae nentydd oddi ar lethrau'r [[Moelwyn Mawr]] yn llifo i [[Llyn Tanygrisiau|Lyn Tanygrisiau]] ac yna'n llifo o'r llyn fel [[Afon Goedol]] (yr enw lleol ar y rhan hon o'r afon). Mae Afon Bowydd yn ymuno a hi ac yna islaw Rhyd y Sarn [[Afon Cynfal]]. Ychydig yn ddiweddarch mae Afon Tafarn-Helyg yn ymuno a hi. Gerllaw [[Maentwrog]] mae [[Afon Prysor]] yn llifo i mewn iddi.
 
Yn fuan wedyn mae'r [[aber]] yn dechrau. Mae'n mynd heibio i [[Portmeirion|Bortmeirion]] ac yn fuan ar ôl hynny mae ffrwd fechan Afon y Glyn ac [[Afon Eisingrug]] yn ymuno. Gerllaw y [[môr]] mae'r aber yn ymuno ag aber [[Afon Glaslyn]] ac yn ymagor i [[Bae Ceredigion|Fae Ceredigion]].