Gwyddor gwybodaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:38, 21 Hydref 2006

Disgyblaeth academaidd a maes cyd-ddisgyblaethol sy'n ymwneud â chynhyrchiad, casgliad, trefniadaeth, storfa, adalwad, a lledaeniad gwybodaeth cofnodedig yw gwyddor gwybodaeth.

Hanes

Darganfyddir gwreiddiau gwyddor gwybodaeth yn nogfennaeth, maes ag ymddangosodd pan ddatblygwyd cyfrifiaduron digidol yn yr 1940au a chynnar yr 1950au. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd ymddangosodd yr angen i mwyhau trachywiredd a dyfnder chwiliadau llyfryddiaethol, ag arweiniodd at ymdrechion i newid dulliau traddodiadol o ddosbarthiad yn systemau cyfrifiadur-gytûn. Cyflwynwyd chwilio awtomataidd ffeiliau, mynegeio cydgysylltiedig, a geirfâu rheoledig fel ymateb i'r angen cynyddol i greu mynediad hawdd i gynnwys cylchgronau gwyddonol. Cafodd crynodebau awtomataidd o ddogfenni eu datblygu i symleiddio mynediad i ddarganfyddiadau ymchwil mwy byth.

Yn yr 1960au trosglwyddwyd casgliadau enfawr o ddogfenni i gronfeydd data neu ffurfiau di-argraffedig, lle gall chwilio trwy'r holl wybodaeth gan ddefnyddio cyfrifiadur. Erbyn 1980 roedd gwyddor gwybodaeth yn faes cyd-ddisgyblaethol, ac yn ddiweddar mae meysydd megis deallusrwydd artiffisial a thecholeg gwybodaeth o fewn addysg wedi dod yn bwysig iawn.

Gweler hefyd