Saeson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
The Biz (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
B dileu gwybodaeth o'r frawddeg gyntaf sy'n amherthnasol i'r Saeson fel cenedl/grŵp ethnig
Llinell 8:
}}
 
Y '''Saeson''' yw'r grŵp ethnig a chenedl a gysylltir â [[Lloegr]] yn bennaf, er bod nifer sylweddol ohonynt yn byw mewn gwledydd eraill hefyd. Maent yn gwneud i fyny y rhan fwyaf o boblogaeth y DU, felly, lle mae pethau'n cael eu noddi trwy drethi ganolog mae'n cael ei dalu yn bennaf gan y Saeson, er enghraifft, y defnydd o'r Iaith Cymraeg gan adrannau'r llywodraeth San Steffan.
 
Mae'r enw "Saeson" yn [[Cymraeg|Gymraeg]] yn dod o enw llwyth y [[Sacsoniaid]]. Ond dim ond un o sawl llwyth o bobl [[Germaniaid|Almaenaidd]] a ddaeth i [[Prydain|Brydain]] o ddiwedd y [[5ed ganrif]] ymlaen oedd y Sacsoniaid. Gyda'r llwythau eraill fe'i helwir yn [[Eingl-Sacsoniaid|Eingl-sacsonaidd]] gan haneswyr. Mae'r gair 'Eingl-sacsonaidd' yn dal i gael ei ddefnyddio yn yr iaith Saesneg fel ansoddair cyfystyr â 'Seisnig' neu 'Saesneg', e.e. ''the Anglo-Saxon world'' am y gwledydd lle siaredir Saesneg. Defnyddir yr elfen arall yn y gair hwnnw, sef '[[Eingl]]' (enw llwyth arall), i gyfeirio at Loegr a phethau Seisnig hefyd. Mae'n cael ei ymestyn yn aml yn Saesneg i gyfeirio at Brydain ei hun. e.e. mae'n arfer sôn am ''Anglo-French'' yn y cyfryngau Saesneg wrth gyfeirio at Brydain a [[Ffrainc]]. Daw'r gair ''English'' o'r enw Eingl/''Angle''.