Cors: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 103:
 
==Mytholeg a defodau==
Roedd corsydd, fel afonydd, llynnoedd a ffynhonnau yn bwysig iawn yn nychymyg ac yn nefodau'r hen Geltaidd. Byddai eu hoffeiriaid yn aberthu i'r lleoedd dyfrllyd hyn, a ystyrid yn byrth i [[Annwfn]] (y byd arall) er mwyn sicrhau atgyfodiad yr haf yn flynyddol yn y frwydr ddiderfyn rhwng pwerau'r tywyllwch a'r goleuni.
 
Cawn adlais o hynny yn chwedl Lleu yn y Mabinogion. Ymgorfforiad o dduw'r haul oedd [[Lleu]] ac yn ôl y stori cafodd yr arwr ei ladd pan gyflawnwyd tri amod arbennig yn y rhyd yn yr [[afon Cynfal]]. Yna, mae'n troi'n eryr (roedd aderyn yn symbol o daith yr enaid i'r byd nesa) cyn cael ei atgyfodi yn ddiweddarach, ar ffurf dyn unwaith eto, gan y dewin [[Gwydion]]. Un o'r tri amod oedd bod raid i Lleu sefyll mewn lle nad oedd yn dir nac yn ddŵr. Tybed be arall allai hynny fod heblaw cors ynde?
 
Mae'n debyg bod cors neu donnen (y fignen ddyfrllyd honno sy'n siglo dan draed), fel heddiw, yn cael ei hystyried yn lle peryglus a thwyllodrus – yn ymddangos yn gadarn ond yn gallu traflyncu'r anghyfarwydd. Hawdd credu y byddai'r hen bobl yn ystyried cors yn drigfan i bwerau mileinig a drygnaws oedd angen eu tawelu ag aberth. Hyd yn oed yn nes i'n dyddiau ni credid bod pwerau'r fall yn trigo mewn corsydd. Onid cannwyll gorff oedd un o'r enwau ar y fflamau rhyfedd, achosid gan y nwy methan, a welid ar fawnogydd weithiau? Yn Nyfed, yr enw ar y dwymyn dridiau (teiffws neu 'ague') oedd yn plagio pobl oedd yn byw gerllaw corsydd oedd Yr Hen Wrach. Ac, wrth gwrs, croesi Cors Anobaith oedd un o'r profion wynebai Cristion yn '[[Taith y Pererin|Nhaith y Pererin]]', [[John Bunyan]].
 
Canfyddwyd rhai o drysorau amlycaf y gwareiddiad Celtaidd mewn corsydd, e.e. sawl crochan efydd, offer metal addurniedig, a hyd yn oed wagenni seremonïol mewn mawnogydd yn ynysoedd Prydain a rhannau o'r Cyfandir, e.e., yn [[Jutland]] yn [[Denmarc|Nenmarc]] y cafwyd crochan arian enwog [[Gundestrup]].
 
Mae'r ''ambience" tywyll yma yn parhau mewn ymadroddion heddiw: