Traeth Lafan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Cyfnewid Gwybodlen am un o WD using AWB
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 10:
Am ganrifoedd roedd pobl yn gorfod croesi Traeth Lafan ar lanw isel i ddal cwch fferi a ddeuai drosodd i'w cyfarfod er mwyn croesi i Ynys Môn. Dyma'r ffordd y cludwyd corff [[Siwan (gwraig Llywelyn Fawr)]] i'w orffwysfa ym [[Brodordy Llan-faes|mynachlog Llan-faes]] yn [[1237]]. Yma hefyd, yn ôl pob tebyg, yr ymladdwyd [[Brwydr Moel-y-don]] ar 6 Tachwedd 1282, rhwng y Cymry a'r Saeson.
 
Dyma gofnod o groesi Traeth Lafan ar y fferi ar 28 Medi 1685:
:We passed over Penmaenmawr at the foot of which on this side I met Lord Bulkeley's coach and servants, but they told as they had escaped very narrowly being cast away in coming over the (Beaumaris) ferry, and that the winds were so high that it was not fit for us to attempt that way<ref>Lord Clarendon: Trans. AAS&FC 1961</ref>
 
==Gwerth amgylcheddol==
Mae glannau Traeth Lafan ynghyd â'r traeth ei hun yn Ardal Warchodedig Arbennig (AWA / SPA) am ei fod yn gartref i gynifer o adar. Mae'n safle arbennig o bwysig yn y gaeaf, pryd ceir nifer o adar dŵr yno, yn arbennig [[Pioden y Môr|piod y môr]] (''Haematopus ostralegus''). Pan fo'r tywydd yn ddrwg yn y gaeaf daw nifer o biod y môr draw o [[Glannau Dyfrdwy|Lannau Dyfrdwy]] i gysgodi. Mae hefyd niferodd o bwysigrwydd rhyng-genedlaethol o'r [[Pibydd Coesgoch]] (''Tringa totanus'') yn gaeafu yma. Rhwng Bangor a Llanfairfechan mae nifer o warchodfeydd sy'n cael eu cynnal gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Cyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn bennaf ar gyfer adar: Aberogwen, Morfa Aber, Morfa Madryn a Glan-y-môr Elias.