Robot: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB
Llinell 4:
Peiriant [[rhithwir]] neu [[mecaneg|fecanyddol]] ydy '''robot''' fel arfer, sydd wedi'i raglennu i wneud tasg neu dasgau arbennig a hynny ar ei ben ei hun. Mae'r robotiaid mwyaf clyfar yn ymddangos fel pe bai ganddynt nodweddiol dynol ac yn gallu meddwl drosto'i hun. Gellir didoli robotiaid i'r dosbarthiadau canlynol: [[hiwmanoidau]] dwy goes, robotiaid â choesau e.e. [[System-gefnogi Bedair Coes]], robotiaid ar olwynion neu robotiaid ehedog e.e. [[drôn]]s. Gellir hefyd eu dosbarth yn ôl maint e.e. y nano-robotiaid meicrosgopig, neu waith.<ref name=r07f>{{cite news|url=http://www.huffingtonpost.com/2012/03/06/four-legged-robot-sets-new-speed-record_n_1324701.html|title=Four-legged Robot, 'Cheetah,' Sets New Speed Record|publisher=[[Reuters]] | date=2012-03-06}}</ref> Mae'r [[car diyrrwr]] hefyd yn cynnwys elfen o robotiaeth.
 
==Yn y dechreaddechreuad...==
Ers cychwyn gwareiddiad bu gan fodau dynol ddiddordeb i greu offer neu gyfarpar a allai ei gynorthwyo ac ysgafnhau ei faich. Aeth i'r pegwn eithaf pan geisiodd drefnu [[caethweision]] i wneud gwaith llafurus drosto, fel arfer y gwaith butraf ac anoddaf. Roedd creu peiriant megis [[olwyn ddŵr]] neu'r [[pwmp]] yn ei alluogi i wneud y gwaith ailadroddus hwn yn gynt a chynt ac yn fwy effeithiol. Wrth i [[technoleg|dechnoleg]] ddatblygu daeth y peiriannau hyn yn fwy cymhleth ac yn fwy effeithiol fyth. Ar gyfer un dasg yn unig y crewyd y rhan fwyaf o'r peiriannau, ond dychmygai rhai beiriant tebyg i ddyn a allai droi ei law at unrhyw dasg dan haul.