Masnach gaethweision yr Iwerydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: Ardddull a manion sillafu, replaced: ym Mhrydain → yng ngwledydd Prydain using AWB
B llun
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Llinell 1:
[[Delwedd:Triangular trade.svg|bawd|Ardaloedd a llwybr y fasnach drionglog.]]
[[Delwedd:Official medallion of the British Anti-Slavery Society (1795).jpg|bawd|Medaliwn Cymdeithas Gwrth-Gaethwasiaeth Prydain.]]
Masnach mewn [[caethwasiaeth|caethweision]] [[Affrica]]naidd a gludwyd ar draws [[Cefnfor yr Iwerydd]] o'r 16g hyd y 19g oedd '''masnach gaethweision yr Iwerydd'''. Gelwir hefyd yn "y fasnach drionglog" am iddi ddigwydd ar dri llwybr: teithiodd masnachwyr Ewropeaidd i Orllewin Affrica i gyfnewid nwyddau am gaethweision; cludwyd y caethweision i'r [[Byd Newydd]] i'w gwerthu a'u gorfodi i weithio; a chludwyd y nwyddau a dyfwyd neu gynhyrchwyd gan y caethweision i Ewrop.
 
Cyfnewidiodd masnachwyr Ewropeaidd [[rỳm]], potiau haearn, [[glain (mwclis)|gleiniau]], [[dryll]]iau a nwyddau eraill am gaethweision. Cafodd y caethweision eu harchwilio a'u gwerthu mewn masnachoedd ar arfordiroedd Gorllewin Affrica. Roedd y fasnach yn hwb economaidd i ymerodraethau [[Ymerodraeth Portiwgal|Portiwgal]], [[Yr Ymerodraeth Brydeinig|Prydain]], [[Ymerodraeth Ffrainc|Ffrainc]], [[Ymerodraeth Sbaen|Sbaen]], a'r [[Ymerodraeth yr Iseldiroedd|Iseldiroedd]]. Roedd caethweision yn [[yr Unol Daleithiau]], [[y Caribî]] a [[Brasil]] yn gweithio ar ffermydd a chaeau [[cotwm]], [[tybaco]], a [[siwgr]]. Cafodd cotwm crai a nwyddau eraill eu cludo i Ewrop. Cludwyd hefyd rhai caethweision i Ewrop i weithio yno fel adeiladwyr neu weision.
 
[[Delwedd:Official medallion of the British Anti-Slavery Society (1795).jpg|chwith|bawd|Medaliwn Cymdeithas Gwrth-Gaethwasiaeth Prydain.]]
Cafodd y caethweision eu trin yn greulon, a buont yn dianc ac yn gwrthryfela'n aml. Cafodd eu cludo ar draws y môr mewn amodau gwael a chyfyng iawn, a bu farw nifer ohonynt yn ystod y daith. Cafodd eu clymu gan efynnau ac wrth eu gyddfau gan garrai lledr. Roeddent yn dioddef chwipio a chosbau corfforol eraill, a chafodd nifer o'r menywod eu treisio gan eu meistri. Ysgrifennodd cyn-gaethweision megis [[Olaudah Equiano]] am eu profiad. Ymdrechodd [[William Wilberforce]] a'r [[diddymiaeth|diddymwyr]] i ddod â'r fasnach i ben. Daeth gaethwasiaeth yn anghyfreithlon yng ngwledydd Prydain ym 1807, daeth y fasnach i ben ym 1833, a daeth caethwasiaeth i ben ar draws yr holl Ymerodraeth Brydeinig ym 1838. Gwnaed caethwasiaeth yn anghyfreithlon yn y mwyafrif o daleithiau gogleddol yr Unol Daleithiau yn y 1790au, ond roedd dymuniad taleithiau'r de i gynnal y system yn brif achos [[Rhyfel Cartref America]] ym 1861. Enillodd y gogledd y rhyfel hwnnw a daeth caethwasiaeth yn y wlad honno i ben.
 
{{comin|Category:Atlantic slave trade|fasnach gaethweision yr Iwerydd}}
 
[[Categori:Caethwasiaeth]]