Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Edward Tegla Davies"

Ychwanegwyd 695 beit ,  3 blynedd yn ôl
BNo edit summary
== Bywyd ==
Magwyd Tegla yn ei bentref genedigol, sef Llandegla, ger [[Rhuthun]] yn 1880, ac yno y cafodd ei addysg gynnar. Cafodd cymdeithas Gymraeg glos a byd natur ei ardal effaith amlwg ar ei waith llenyddol a'i agwedd at fywyd yn gyffredinol. Aeth i [[Coleg Didsbury|Goleg Didsbury]], [[Manceinion]] ar ôl cyfnod o 4 mlynedd yn ddisgybl-athro ac yna tair mlynedd fel athro cynorthwyol yn Ysgol [[Bwlchgwyn]], ei hen ysgol, cyn gwasanaethu fel gweinidog [[Eglwys Fethodistaidd Cymru|Wesla]] am weddill ei oes. Crwydrodd o gylchdaith i gylchdaith yn ystod ei weinidogaeth, fel oedd yn arferol i weinidogion Wesla, ac roedd yn [[Pregethwyr|bregethwr]] dylanwadol. Roedd yn sgwennu'n gyson i'r [[Y Wasg Gymraeg|wasg Gymraeg]] ac yn olygydd ar ''[[Y Winllan]]'' ([[1920]]-[[1928]]), cylchgrawn y Wesleaid, a'r ''[[Yr Efrydydd|Efrydydd]]'' ([[1931]]-[[1935]]). Golygodd ''[[Cyfres Pobun|Gyfres Pobun]]'' am gyfnod yn ogystal. Roedd yn adnabod nifer o lenorion eraill yng Nghymru ac yn gyfaill agos i [[Thomas Gwynn Jones|T. Gwynn Jones]] ac [[Ifor Williams]].
 
==Anrhydeddau==
Gwrthododd cynnig i dderbyn [[Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig|OBE]], gan ysgrifennu at ffrind, 'Ni allaf ddychmygu fy hun yn "Swyddog yr Ymerodraeth Brydeinig" pan oeddwn wedi ymrwymo fy mywyd i wasanaethu Un a fu farw ar groes'. Ond derbyniodd ddau anrhydedd o [[Prifysgol Cymru|Brifysgol Cymru]], gradd MA er anrhydedd ym 1924 a DLitt ym 1958, am ei gyfraniad at lenyddiaeth Gymreig.<ref>Elis, I. (2004, September 23). Davies, (Edward) Tegla (1880–1967), Wesleyan Methodist minister and author. Oxford Dictionary of National Biography. Ed. Retrieved 11 Feb. 2019, from http://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-61275.</ref>
 
== Gwaith Llenyddol ==