Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
B papur bro
llun
Llinell 3:
Tyfodd pentref Nantlle fel pentref i'r gweithwyr yn y chwareli llechi cyfagos, ac mae olion y chwareli hynny i'w gweld ymhobman o gwmpas y pentref, yn enwedig i'r gogledd. I'r de o'r pentref mae [[Llyn Nantlle Uchaf]], sydd ag Afon Drws-y-coed yn llifo i mewn iddo ac [[Afon Llyfni]] yn tarddu ohono.
 
[[Delwedd:Ysgol Baladeulyn.jpg|220px|bawd|Ysgol Baladeulyn, Nantlle.]]
Cyfeirir at nifer o leoedd yn ardal Nantlle ym mhedwaredd gainc y [[Pedair Cainc y Mabinogi|Mabinogi]], chwedl ''[[Math fab Mathonwy]]''. Dywedir fod y gair "Nantlle" ei hun yn dod o "Nant Lleu".
 
Ar un adeg roedd dau lyn yma, fel y gwelir yn yr enw "Baladeulyn". Gyda datblygiad y chwareli fe wacawyd y dŵr o'r llyn arall, Llyn Nantlle Isaf, a newidiwyd cwrs Afon Llyfni. Yn ffermdy Talymignedd Uchaf gerllaw'r pentref y ganwyd Margaret Evans, "Marged Fwyn Uch Ifan" (ferch Ifan), sy'n cael ei choffáu yn y pennill:
 
:Mae gan Marged fwyn Uch Ifan<br>
:Delyn fawr a thelyn fechan<br>;
:Un i ganu'n nhre Caernarfon<br>
:A'r llall i gadw'r gŵr yn fodlon.