Johnny Cash: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:59, 23 Mawrth 2010

Canwr Americanaidd oedd John R. "Johnny" Cash (26 Chwefror, 1932 - 12 Medi, 2003) ac awdur, a elwir gan rai yn un o gerddorion mwyaf o'r 20ed ganrif. Cafodd ei fagu yn Dyess, Arkansas.

Y canwr

Roedd ganddo lais bas-bariton unigryw ac yn hoff o roi cyngherddau am ddim i garcharorion. Roedd rhai'n ei alw'n 'The Man in Black' a chychwynai llawer o'i gyngherddau drwy ddweud, "Hello, I'm Johnny Cash."

Roedd llawer o'i ganeuon yn drist neu'n sôn am faddeuant a phroblemau moesol. Ymhlith ei ganeuon mwyaf poblogaidd y mae: "I Walk the Line", "Folsom Prison Blues", "Ring of Fire", "Get Rhythm" a "Man in Black". Roedd rhai o'iganeuon yn llawn hiwmor.