Afon Menai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Gwybodlen
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}}
}}
Sianel dŵr hallt neu [[Culfor|gulfor]] yng ngogledd-orllewin [[Cymru]] rhwng [[Ynys Môn]] ac [[Arfon]] ([[Gwynedd]]) ar y tir mawr yw '''Afon Menai'''. Ei hyd yw tua 14 milltir. Mae lled y Fenai yn amrywio o lai na chwarter milltir ger [[Porthaethwy]], lle mae [[Pont Y Borth]] yn ei chroesi, a ger [[Llanfairpwll]] lle mae [[Pont Britannia]] yn ei chroesi, i tua 3 milltir a hanner yn ei phen gorllewinol. Yn y gorllewin ceir nifer o lagwnau bychain, Y Foryd ar y tir mawr a Thraeth Melynog ar dir Môn. I'r gogledd-ddwyrain o'r pontydd mae'r Fenai yn ymledu dros [[Traeth Lafan|Draeth Lafan]] rhwng [[Penmon]] ac [[Ynys Seiriol]] yn y gogledd a [[Penmaenmawr|Phenmaenmawr]] yn y de ac yn mynd yn rhan o [[Bae Conwy|Fae Conwy]]. Mae'r [[llanw]] yn rhedeg yn gyflym trwyddi weithiau ac yn gallu bod yn beryglus, yn arbennig yng nghyffiniau trobwll [[Pwll Ceris]].
[[Delwedd:The Britannia Tubular Bridge, over the Menai Straits.jpeg|bawd|chwith|300px|Pont Britania; ca. 1860]]
 
Ceir sawl tref a phentref ar ei glannau. Ar lannau Gwynedd ceir [[Caernarfon]], [[Y Felinheli]] a [[Llanfairfechan]], ac ar yr ynys ceir [[Porthaethwy]] a [[Biwmares]].
 
Mae’r afon yn mynd i ddwy lle sef [[Pont Grog y Borth]] sydd yn cario’r A5, a [[Robert Stephenson]] 1850 [[pont Britannia]]. Roedd [[Bont Britannia]] yn cario rheilffordd oedd yn symud bocsys mawr allan o heuan ond ar ôl tan fawr wnaeth dinistrio’r lle yn 1970 doedd yna bron iawn dim byd ar ôl yno. Ond cafodd i ail adeiladu a rŵan hefo rheilffordd a ffordd traffig sef y A55. Rhwng y ddwy pont mae yna ynys fach yno [[Ynys Gored Goch]], hefo tai bach wedi cael ei adeiladu arno, a thrap pysgod sydd ddim yn cael ei defnyddio dim mwy.
==Hanes==
Mae’r enw Menai yn dod o ‘Men-aw’ neu ‘Main-wy’, sydd yn meddwl ‘dŵr cul’.
Yng nghwrs [[hanes Cymru]] gwelid sawl brwydr ar y Fenai neu ar ei glannau, o gyfnod y [[Rhufeiniaid]] pan wynebwyd [[Lleng Rufeinig|lleng]] [[Suetonius Paulinus]] gan [[derwydd]]on a gwragedd Môn i [[Oes y Tywysogion]]. Un o fwriadau'r [[Saeson]] wrth godi [[castell Biwmares]] a [[Castell Caernarfon|chastell Caernarfon]] oedd gwarchod y fynedfa i'r Fenai o'r ddau ben.
 
Yn yr 11 canrif daeth dwy ffrind gyda'i gilydd i dwyn o [[Gymru]] ond wrth iddyn nhw wneud hynny dechreuodd y ddwy ffraeo a chawsant nhw frwydr yn yr Afon Menai. Ei enwau oedd Echmarcach mac Ragnaill ac Guttorm Gunnhildsson. Curodd Guttorm wrth weddïo i'r Sant Olaf ac roedd Echmarcach wedi cael ei lladd.
 
Yn yr 12 canrif roedd yna frwydr arall yn yr afon Menai gan iarll o’r enw Magnus Erlendsson, sant Magnus yn y dyfodol. Roedd yn cael ei nabod oherwydd bod yn grefyddoldeb a thirionder. Roedd yn gwrthod i ymladd yn y frwydr yn Ynys Môn, mi wnaeth aros yn ei chwch. Ac mae’r digwyddiad yma wedi troi i nofel o’r enw ‘Magnus’ ac opera o’r enw ‘The Martyrdrome of Sant Magnus’. Ac mae’r naw darn cyntaf wedi cael ei enwi ‘The Battle of Menai Strait’.
 
Roedd yna ddigwyddiad gyda awyren. Roedd yn stormus iawn ac er roedd y ddynes eisiau trio pasio trwyddo, roedd yr awyrennwr yn gwybod bysant nhw ddim yn gwneud o drwy'r storm. Oherwydd y storm mi wnaethom gael ddamwain i mewn i'r bont, ond mi wnaeth neb byw. Os rydach yn mynd yno rŵan ac yn edrych yn agos ar y bont a'r tai o amgylch rydach yn gallu gweld hoelion o’r digwyddiad.
 
==Gwreiddyn==
Mae’r Afon rydem yn weld heddiw yn ganlyniad o achosiad erydiad [[rhewlifol]] o’r creigwely ymlaen llinell gwan roedd mewn cysylltiad gyda nam yn y system yn yr Afon Menai. Trwy'r gyfres o gynfas o rew ac oherwydd hynny symudodd o gogledd-ddwyrain ar draws [[Ynys Môn]] a llefydd cyfagos Arfon ac yn ysgwrfa'r graig ar y gwaelod, a gronyn hefyd yn teithio'r un ffordd. Y canlyniad oedd cyfres o greigwely llinol tyno trwy’r frodir. Roedd y rhan dwfn wedi cael ei orlifo gan y môr ar y diwedd o’r oes rhew pan gorffennodd.
 
==Ecoleg==
Am fod y llanw mor anghyffredin a'i dyfroedd mor gysgodedig, mae gan y Fenai ecoleg amrywiol ac unigryw. Ceir nifer o ysbynau môr yno. Sefydlwyd Ysgol Gwyddorau'r Môr [[Prifysgol Cymru, Bangor]] yn rhannol er mwyn ei hastudio. Gobeithir troi'r rhan fwyaf o'r Fenai yn Warchodfa Morwrol yn y dyfodol agos. Mae llawer o'r tir ar lannau Menai ar ochr Ynys Môn, rhwng [[Ynys Llanddwyn]] a Phorthaethwy, eisoes yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
 
==Effaith y Llanw==
Mae’r effaith rydach yn weld mae’r llanw yn cael yn gallu fod yn ddryslyd weithiau. Wrth i godiad llanw dynesu o’r de-orllewin, sydd yn achosi’r dŵr i ddilyn a mynd gogledd-ddwyrain ac wrth i hynny digwydd mae’n achosi’r lefelau’r dŵr i godi. Hefyd mae’r llanw yn llifo o amgylch Ynys Môn hyd nes, ar ôl ychydig o amser, mae’n dechrau llifo i'r afon a mynd i'r cyfeiriad de-orllewin o Biwmares. Erbyn yr amser mae hwn yn digwydd mae’r llanw o ddiwedd Caernarfon yn gwanhau ac mae’r llanw yn cario mlaen i godi mewn taldra ond mae’r ffordd mae’r llanw’n mynd yn newid.
 
==Galeri==