Charlotte Church: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 23:
Yn 2003 ymunodd Charlotte gyda [[Jurden Vries]] i ganu ar un o’i ganeuon The Opera Song (Brave New World). Cyrhaeddod y gân rif tri ar y siartiau pop Prydeinig; dyna oedd yr ail waith iddi fod yn y siartiau efo sengl uchaf Church a sengl uchaf Vries.
 
Yn 2005 rhyddhaodd Charlotte ei albwm pop gyntaf sef '''Tissues and Issues'''. Daeth 4 sengl oddi ar yr albwm yn llwyddiannus ym Mhrydain, daeth Crazy Chick’ yn rhif 2 ar y siartiau, ‘Call My Name’ yn rhif 10, ‘Even God Can’t Change The Past ‘yn rhif 17, ac ‘Mood Swings’ yn rhif 14. Er bod yr albwm wedi cael ei rhyddhau yn Awstralia, ni chyrhaeddodd yr un lefel o lwyddiant yno. Yn 2006 perfformiodd Charlotte yng [[Glasgow|Nglasgow]], [[Llundain]] ac yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] mewn lleoliadau sy’n dal rhwng 2,000 ac 3,000 o bobl.
 
Yn 2006 cyhoeddwyd fod cytundeb Charlotte hefo [[Sony]] wedi dod i ben ar ôl cyfnod o 12 mlynedd.
 
Roedd yna ddyfalu bod Charlotte wedi cymryd seibiant o’i gyrfa canu i ganolbwyntio ar ei sioe deledu, ond roedd Charlotte yn feichiog gyda’i merch Ruby Megan Henson.
 
Yn 2007 daeth Charlotte yn noddi elusen '''The Topsy Foundation''' i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer rhoi cymorth i gymunedau gwledig yn Ne Affrica i helpu pobl oedd yn dioddef o HIV neu AIDS.
 
Dwy flynedd wedyn daeth yn feichiog eto gyda’i mab Dexter Lloyd Hanson.
 
 
 
Ers 2010 bu mewn perthynas gyda'r cerddor Jonny Powell a priododd y ddau ym mis Medi 2017.<ref>{{dyf newyddion|url=http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-south-east-wales-41499123|teitl=Charlotte Church marries Jonny Powell in secret ceremony|cyhoeddwr=BBC News|dyddiad=4 Medi 2017|iaith=en}}</ref>