Maelgwn Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 14:
[[Image:LlanrhosChurch-P7010266.jpg|250px|bawd|Eglwys Rhos, Llanrhos: yma y bu farw Maelgwn Gwynedd yn 547, yn ôl traddodiad, wedi ei daro gan y Fad Felen]]
 
Un chwedl am Maelgwyn yw ei fod wedi rhoi sialens i frenhinoedd eraill Cymru i gystadleuaeth i benderfynu pwy fyddai ben ar y gweddill. Awgrymodd fod pob brenin yn eistedd ar gadair ar y traeth pan oedd y llawllanw'n dod i mewn. Byddai'r brenin allai aros ar ei gadair hwyaf yn dod yn ben ar y gweddill. Gorfododd y llanw i'r brenhinoedd eraill adael ei cadeiriau, ond roedd Maelgwn wedi trefnu i gael gwneud cadair fyddai'n nofio, felly enillodd trwy ystryw. Ceir chwedl gyffelyb am y brenin [[Daniaid|Danaidd]] [[Cnut]] yn [[Lloegr]].
 
Yn ôl traddodiad rhoddodd Maelgwn un rhan o [[Ynys Môn]] i Sant [[Cybi]] a'r llall i [[Seiriol]]. Yn ôl un traddodiad, cafodd ei gladdu ar [[Ynys Seiriol]] (ond gweler isod). Efallai fod y disgrifiad ohono fel ''Insula draco'' ('Draig yr Ynys', sef 'brenin yr ynys') gan Gildas yn cyfeirio at y ffaith fod Môn yn ei feddiant.